Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: 2022
Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno ystadegau ar y newidiadau yn y canlyniadau TGAU, UG a safon uwch cyffredinol a welwyd gan ysgolion a gynhelir.
Pwyntiau Allweddol:
- O gymharu â 2021, bu gostyngiad cyffredinol yng nghanlyniadau TGAU, UG a safon uwch canolfannau yn haf 2022, ond gwelodd rhai canolfannau gynnydd.
- O gymharu â 2019, yr haf diwethaf y safwyd arholiadau ffurfiol, gwelodd canolfannau gynnydd cyffredinol yng nghanlyniadau TGAU, UG a safon uwch yn haf 2022. Fodd gynnag, gwelodd rhai canolfannau ostyngiad o ran canlyniadau.
- Mae'r newid cyfartalog yng nghanlyniadau'r canolfannau yn gyson â chanlyniadau cenedlaethol, a ddyfarnwyd yn fras hanner ffordd rhwng 2019 a 2021.
- Roedd amrywiaeth sylweddol o ran newidiadau ar draws y canolfannau. Yn gyffredinol, roedd newidiadau mwy o ran canlyniadau canolfannau ar lefel UG a safon uwch na TGAU. Mae hyn hefyd yn gyson â'r newidiadau yn y canlyniadau cenedlaethol.
- Ar draws TGAU, UG a safon uwch, y duedd oedd i ganolfannau a welodd gynnydd yn 2021 weld mwy o ostyngiad yn y canlyniadau yn 2022. Mae cryfder y patrwm hwn yn amrywio rhwng mathau o gymwysterau a throthwyon graddau.
Cysylltu
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Ymholiadau gan y cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysteraucymru.org