Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: 2023

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

21.09.23

Cyfnod dan sylw:

Cyfres haf 2023

Diweddariad nesaf:

Medi 2024 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: 2023

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno ystadegau ar y newidiadau yn y canlyniadau TGAU, UG a safon uwch cyffredinol a welwyd gan ysgolion a gynhelir.

Pwyntiau allweddol

  • O’i gymharu â 2022, gostyngodd canlyniadau canolfannau ar gyfartaledd ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2023, mae hyn yn gyson â newidiadau mewn canlyniadau cenedlaethol, a ddyfarnwyd yn fras hanner ffordd rhwng 2019 a 2022.
  • Gwelodd lleiafrif o ganolfannau gynnydd o’i gymharu â 2022.
  • Mae ystod dosbarthiad y newidiadau yng nghanlyniadau canolfannau rhwng 2022 a 2023 yn weddol debyg i ddosbarthiad newidiadau blynyddol yn y blynyddoedd cyn y pandemig.
  • O’i gymharu â 2019, cynyddodd canlyniadau cyffredinol canolfannau ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2023. Fodd bynnag, gwelodd rhai canolfannau ostyngiad mewn canlyniadau.
  • Roedd amrywiad sylweddol mewn newidiadau ar draws canolfannau - yn gyffredinol, bu newidiadau mwy yng nghanlyniadau canolfannau ar gyfer UG a Safon Uwch na TGAU ac mae hyn hefyd yn gyson â'r newidiadau mewn canlyniadau cenedlaethol.
  • Ar draws TGAU, UG a Safon Uwch, roedd canolfannau a welodd ostyngiad mwy yn 2022 yn tueddu i weld naill ai cynnydd neu ostyngiad llai yn 2023, ac i’r gwrthwyneb - mae cryfder y patrwm hwn yn amrywio rhwng mathau o gymwysterau a throthwyon graddau.

Cysylltu

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Ymholiadau gan y cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru