Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: Haf 2024
Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno ystadegau ar y newidiadau yn y canlyniadau TGAU, UG a safon uwch cyffredinol a welwyd gan ysgolion a gynhelir.
Pwyntiau Allweddol:
Ar gyfartaledd, bu cwymp yng nghanlyniadau TGAU, UG a Safon Uwch yr ysgolion yn haf 2024 o gymharu â 2023. Mae hyn yn cyd-fynd â’r newidiadau a welwyd yn y canlyniadau cenedlaethol, a oedd yn cael eu dyfarnu yn unol â threfniadau cyn y pandemig. Fodd bynnag, gwelodd rhai ysgolion gynnydd yn eu canlyniadau o gymharu â 2023, ac roedd amrywiaeth sylweddol yn y newidiadau ar draws ysgolion.
Mae'r berthynas rhwng y newidiadau a welwyd yn 2024 a'r newidiadau a welwyd yn y blynyddoedd cyn y pandemig yn amrywio yn ôl y radd dan sylw. Gyda rhai graddau, mae amrediad y newidiadau yn debyg iawn, ond nid yw hyn yn wir gyda phob gradd.
O'u cymharu â 2019, roedd canlyniadau cyfartalog TGAU, UG a Safon Uwch 2024 yr ysgolion yn weddol debyg ar gyfer y rhan fwyaf o raddau. Fodd bynnag, bu cynnydd yng nghanlyniadau rhai ysgolion, ac eraill yn gweld cwymp.
Pan fo ysgol wedi gweld gostyngiad mwy yn 2023, roedd tuedd i’r cynnydd neu ostyngiad yno fod yn llai yn 2024, ac i'r gwrthwyneb, a hynny ar draws canlyniadau TGAU, UG a Safon Uwch. Roedd cryfder y patrwm hwn yn gymedrol ar gyfer pob math o gymhwyster.
Cysylltu
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Ymholiadau gan y cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru