Apeliadau ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2021
Datganiad blynyddol sy’n cyflwyno data ar nifer yr apeliadau yng Nghymru ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch.
Pwyntiau allweddol:
- Cyflwynwyd 317 o apeliadau TGAU a TAG i gyrff dyfarnu yn dilyn cyfres arholiadau haf 2021, a chafodd 15 ohonynt eu cadarnhau.
- Heriwyd 320 o raddau TGAU a TAG, a newidiwyd 15 o raddau o ganlyniad i apeliadau yn haf 2021. Newidiwyd 0.003% o’r holl raddau TGAU a TAG haf 2021 – oddeutu 1 mewn 30,000 – ar sail apêl.
- Oherwydd effaith y pandemig COVID-19 bu newidiadau sylweddol i'r prosesau dyfarnu ac apelio. Mae'r newidiadau hyn yn golygu y dylai defnyddwyr ddehongli gwahaniaethau rhwng ffigurau 2021 a chyfresi eraill yn ofalus. Mae'r datganiad hwn yn disgrifio'r apeliadau yn haf 2021 yn unig. Mae data ychwanegol ar gael yn y tablau data cysylltiedig.
- Yn haf 2021, gallai dysgwyr apelio yn erbyn eu graddau dros dro drwy ofyn am adolygiad canolfan, a allai fod wedi arwain at newidiadau gradd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cynnwys data ar adolygiadau canolfan na newidiadau gradd o ganlyniad i adolygiadau canolfan. Dim ond apeliadau a gyflwynwyd i gyrff dyfarnu (cam 2) ar gyfer haf 2021 a gynhwysir.
- Nid yw'r ystadegau hyn yn cynnwys data ar apeliadau a dynnwyd yn ôl. Mae hyn yn gyson â blynyddoedd blaenorol.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 253
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 216
E-bost: cyfathrebu@cymwysteraucymru.org