Apeliadau ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2024

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

10.04.25

Cyfnod dan sylw:

Haf 2024

Diweddariad nesaf:

Ebrill 2026 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Apeliadau ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2024

Datganiad blynyddol sy’n cyflwyno data ar nifer yr apeliadau yng Nghymru ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch.

Pwyntiau allweddol

  • Cyflwynwyd 76 o apeliadau TGAU, UG a Safon Uwch yn dilyn cyfres arholiadau haf 2024, a chadarnhawyd 36 o’r apeliadau hynny.
  • Heriwyd 100 o raddau TGAU, UG a Safon Uwch a newidiwyd 20 gradd o ganlyniad i apêl yn haf 2024.
  • Cafodd tua un o bob 20,000 o raddau TGAU, UG a Safon Uwch haf 2024 eu newid oherwydd apêl.
  • Apeliadau yn ymwneud â’r broses marcio a chymerdoli oedd y math mwyaf cyffredin o apêl TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2024. 
  •  Gwnaed newidiadau sylweddol i'r prosesau dyfarnu ac apelio yn ystod hafau 2020 a 2021 oherwydd pandemig COVID-19. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu ffigyrau 2020 a 2021 â blynyddoedd eraill.
  • Nid yw'r ystadegau hyn yn cynnwys data ar apeliadau a dynnwyd yn ôl. Mae hyn yn gyson â blynyddoedd blaenorol.

Datganiadau blaenorol

Apeliadau ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2023

Apeliadau ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2022

Apeliadau ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2021

Cyswllt

Ystadegydd 
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru