Blaenoriaethau Strategol 2022-27

STRATEGAETH

Dyddiad rhyddhau:

14.12.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR

Blaenoriaethau Strategol 2022-27

Mae ein Cynllun Blaenoriaethau Strategol, sy'n cwmpasu'r cyfnod 2022-2027, yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae saith mlynedd bellach ers sefydlu Cymwysterau Cymru ac mae llawer iawn wedi newid yn y cyfnod hwnnw. Rydyn ni wedi cryfhau ein safle yn y sector addysg yng Nghymru a thu hwnt. Ochr yn ochr â phartneriaid a rhanddeiliaid, rydyn ni’n parhau i ymateb i rai o’r heriau mwyaf erioed y mae’r system gymwysterau wedi’u hwynebu.

Mae’r strategaeth hon, sydd wedi’i datblygu gyda chefnogaeth rhanddeiliaid allweddol, yn cyflwyno’r weledigaeth hirdymor arm gyfer sut y bydd ein gwaith yn esblygu gyda phartneriaid. Mae’n amlinellu sut y byddwn yn parhau i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn gallu dewis o blith cymwysterau y mae modd ymddiried mynddynt, sy’n cael eu gwerthfawrogi ac sy’n gludadwy yn fyd-eang, sy’n berthnasol, yn deg, yn hyblyg ac yn ddwyieithog