Ystadegau

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

16.12.21

Cyfnod dan sylw:

Haf 2021

Diweddariad nesaf:

Rhagfyr 2022 (Dros dro)

ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID

Camymddwyn yng nghymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2021

Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cosbau a throseddau camymddwyn yng Nghymru ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch.

Pwyntiau Allweddol:

  • Oherwydd effaith Pandemig COVID-19 ar asesu ar gyfer cymwysterau bu newidiadau sylweddol i'r prosesau camymddwyn. Mae'r newidiadau hyn yn golygu y dylai defnyddwyr ddehongli gwahaniaethau rhwng ffigurau 2021 a chyfresi eraill yn ofalus. Mae'r datganiad hwn yn disgrifio'r camymddwyn yn haf 2021. Mae data ychwanegol ar gael yn y tablau data cysylltiedig. Er na chafwyd unrhyw arholiadau yn haf 2021, mae rhai achosion camymddwyn yma yn ymwneud ag asesiadau a gwblhawyd cyn arholiadau'r haf yn ogystal ag asesiadau a ddefnyddiwyd i bennu graddau mewn canolfannau.
  • Rhoddwyd 35 o gosbau yn ystod haf 2021. Rhoddwyd pob un o'r 35 o'r rhain i fyfyrwyr, ac ni roddwyd yr un ohonynt i ganolfannau nac i staff canolfannau.
  • Rhybuddion oedd yr holl gosbau a roddwyd i fyfyrwyr yn haf 2021.

Manylion cyswllt

Ystadegydd

Ffôn: 01633 373 253

E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org  

Y Cyfryngau

Ffôn: 01633 373 216

E-bost: cyfathrebu@cymwysteraucymru.org