Camymddwyn yng nghymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2023
Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cosbau a throseddau camymddwyn yng Nghymru ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch.
Pwyntiau Allweddol:
- Rhoddwyd 310 o gosbau i fyfyrwyr yn haf 2023, cynnydd o 31.9% ers 2022.
- Yn 2023, rhoddwyd tua un gosb am bob 3,500 o gofrestriadau.
- Ffonau symudol sy'n parhau i fod y rheswm mwyaf cyffredin dros roi cosb. Cafodd 42.3% o gosbau yn 2023 eu rhoi oherwydd bod myfyrwyr wedi mynd â ffôn symudol i'r ystafell arholiad
- Rhoddwyd 15 o gosbau i staff canolfannau am gamymddwyn, a rhoddwyd llai na phum cosb i ganolfannau.
Manylion cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru