Camymddwyn yng nghymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru: cyfres arholiadau haf 2024
Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cosbau a throseddau camymddwyn yng Nghymru ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch.
Pwyntiau Allweddol:
- Cafodd 275 o gosbau eu rhoi i fyfyrwyr yn haf 2024, sy’n ostyngiad o 11.3% ers 2023.
- Yn haf 2024, rhoddwyd oddeutu un gosb i bob 4,000 o gofrestriadau.
- Unwaith eto, ffonau symudol oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros roi cosb. Cyhoeddwyd 34.2% o'r cosbau yn haf 2024 oherwydd bod myfyrwyr wedi mynd â ffôn symudol i'r ystafell arholiad.
- Rhoddwyd 15 o gosbau i staff canolfannau am gamymddwyn, a rhoddwyd llai na phum cosb i ganolfannau.
Manylion cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru