Canfyddiadau a phrofiad o asesiad di-arholiad
Adroddiad am ganfyddiadau pwnc-benodol a thrawsbynciol ymchwil a gynhaliwyd ar brofiadau a chanfyddiadau athrawon a dysgwyr o asesiadau di-arholiad mewn cymwysterau TGAU cymeradwy yng Nghymru, rhwng gwanwyn 2019 a gwanwyn 2020.
Ers 2019, mae ein tîm ymchwil wedi bod yn gweithio ar brosiect ar raddfa fawr ar ddefnyddio asesiadau di-arholiad mewn cymwysterau TGAU cymeradwy yng Nghymru.
Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar brofiad a chanfyddiadau athrawon a dysgwyr o asesiadau di-arholiad ac yn cynnwys:
- grwpiau ffocws dysgwyr
- grwpiau ffocws athrawon
- arolwg ar-lein i athrawon
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd, ochr yn ochr â thystiolaeth arall, i lywio ein syniadau am y ffordd y gellid cynllunio cymwysterau TGAU yn y ffordd fwyaf effeithiol i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys adran ar gyfer pob pwnc unigol sy'n amlinellu'r prif ganfyddiadau o bob un o'r tair ffrwd waith. Dyma'r pynciau:
- TGAU Celf a Dylunio
- TGAU Cyfrifiadureg
- TGAU Dylunio a Thechnoleg
- TGAU Drama
- TGAU Saesneg Iaith
- TGAU Llenyddiaeth Saesneg
- TGAU Bwyd a Maeth
- TGAU Daearyddiaeth
- TGAU Hanes
- TGAU Astudio’r Cyfryngau
- TGAU Ieithoedd Tramor Modern
- TGAU Cerddoriaeth
- TGAU Addysg Gorfforol
- TGAU Gwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl)
- TGAU Cymraeg Iaith
- TGAU Llenyddiaeth Gymraeg
- TGAU Cymraeg Ail Iaith
Mae'r crynodebau gweithredol ar gyfer dau gam yr ymgysylltu â dysgwyr a luniwyd gan AlphaPlus hefyd ar gael i'w darllen.
Hoffem ddiolch i'r holl athrawon, dysgwyr a chyfranogwyr eraill fu’n gysylltiedig â'n helpu gyda'r ymchwil hwn.