Trefniadau asesu wrth gefn ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch
Mae'r ddogfen hon yn rhoi trosolwg i ganolfannau o'r gofynion pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad annhebygol i ganslo cyfres arholiadau'r haf.
Ni fwriedir i'r wybodaeth yn y ddogfen hon dynnu sylw oddi wrth baratoadau ar gyfer arholiadau yn yr haf.
O ystyried digwyddiadau’r ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym yn gwybod bod siawns fechan y gallai fod angen trefniadau amgen eto yn y dyfodol. Felly, dylai canolfannau baratoi ar gyfer y posibilrwydd o roi’r trefniadau wrth gefn ar waith drwy gynllunio pa asesiadau y byddant yn eu defnyddio i lywio graddau a bennir gan ganolfan, pe bai eu hangen, fel y gellir dechrau casglu tystiolaeth asesu cyn gynted â phosibl ac fel y bo’n briodol ar gyfer pob canolfan. Er mwyn i hyn fod yn hylaw ochr yn ochr â pharatoi ar gyfer cyfres arholiadau'r haf, dylai canolfannau anelu at ddefnyddio asesiadau sydd wedi'u hymgorffori i'r addysgu a'r dysgu arferol a’r cynlluniau asesu presennol.
Dylid marcio asesiadau, a rhoi adborth i ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer cyfres arholiadau'r haf ac i ganiatáu iddynt gael eu defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer gradd a bennir gan ganolfan, petai’r sefyllfa anhebygol yn codi a bod angen hynny. Rhaid i ganolfannau hysbysu dysgwyr pa asesiadau fydd yn cael eu defnyddio i gasglu tystiolaeth fel rhan o drefniadau wrth gefn posibl os caiff arholiadau eu canslo. Os bydd hynny'n digwydd, bydd yr asesiadau'n cael eu defnyddio i gefnogi dyfarniad cyfannol o radd cymhwyster a bennir gan ganolfan.