Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2024 yng Nghymru - TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

23.05.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2024: TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau

Adroddiad blynyddol sy'n cyflwyno data dros dro ar Gofrestriadau ar gyfer Arholiadau Haf 2024 yng Nghymru: TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau.

Pwyntiau Allweddol

Yn 2020 a 2021, cafodd arholiadau’r haf eu canslo oherwydd effaith pandemig COVID-19 ac fe wnaeth canolfannau bennu graddau. Bydd y gwahanol ddulliau o ddyfarnu graddau, yn ogystal ag aflonyddwch arall oherwydd pandemig COVID-19, wedi effeithio ar ffigurau cofrestru yn y datganiad hwn. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn y nodiadau cefndir.

TGAU

  • Gwnaed 322,565 o gofrestriadau TGAU ar gyfer haf 2024. Mae hyn yn gynnydd o 4.8% o'i gymharu â'r cofrestriadau TGAU ar gyfer haf 2023.
  • O'i gymharu â 2019, mae nifer y cofrestriadau yn 2024 wedi cynyddu 5.5%.
  • Dysgwyr Blwyddyn 11 yw'r rhai mwyaf tebygol o gofrestru ar gyfer TGAU yng nghyfres yr haf, gan gyfrif am 90.0% o gyfanswm y cofrestriadau.
  • Bu cynnydd o 5.3% yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 11 yr haf hwn o gymharu â haf 2023.
  • Roedd cofrestriadau Blwyddyn 10 yn cyfrif am 5.7% o’r holl gofrestriadau TGAU yr haf hwn. Cafwyd 18,395 o gofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 10 yn haf 2024. Mae hyn yn ostyngiad o 7.2% o gymharu â’r haf diwethaf, pan oedd 19,825.
  • Bu cynnydd yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 12 neu uwch yr haf hwn, sef 4.1% o gyfanswm y cofrestriadau TGAU o'i gymharu â 3.9% yr haf diwethaf.

Safon UG

  • Cafwyd 42,630 o gofrestriadau lefel UG yn haf 2024 yng Nghymru, 1.3% yn fwy nag yn haf 2023 a 2.4% yn fwy nag yn 2019.
  • Cafwyd 35,855 o gofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 12, sef 84.1% o’r holl gofrestriadau o gymharu ag 86.2% yn haf 2023, a 76.5% yn haf 2019.
  • Cynyddodd nifer y cofrestriadau Blwyddyn 13 17.5% yr haf hwn o gymharu â 2023 a chafwyd gostyngiad o 30.8% yr haf hwn o gymharu â haf 2019.

Safon Uwch

  • Cafwyd 32,385 o gofrestriadau Safon Uwch ar gyfer haf 2024, 2.3% yn llai nag yn haf 2023.
  • O gymharu â haf 2023, gwelwyd gostyngiad o 4.3% o gofrestriadau ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 13. Roedd dysgwyr Blwyddyn 13 yn cyfrif am 90.2% o'r holl gofrestriadau Safon Uwch yr haf hwn o gymharu â 92.2% yn haf 2023.
  • Mae cofrestriadau Blwyddyn 14 ac uwch wedi cynyddu 25.0% rhwng haf 2024 a haf 2023, ond wedi gostwng 32.2% o gymharu â haf 2019.
  • O gymharu â 2019, mae'r cofrestriadau wedi gostwng 0.6%. Gyrrwyd hyn gan ostyngiad yn nifer y cofrestriadau gan ddysgwyr ym Mlwyddyn 14 neu uwch a Blwyddyn 11 neu is, cofrestriadau o 32.2% and 64.0% yn y drefn honno.

Mae nifer o ffactorau a all ddylanwadu ar newidiadau yn nifer y cofrestriadau ar gyfer grwpiau blwyddyn dros amser, er enghraifft newidiadau i'r canlynol:

  • Maint y boblogaeth;
  • Ymddygiad cofrestru e.e. pryd y caiff dysgwyr eu cofrestru ar gyfer eu harholiadau TGAU;
  • Nifer y cymwysterau o bob math a sefir ar gyfartaledd;
  • Y mathau o gymwysterau ôl-16 a sefir.

Gan fod y datganiad hwn yn seiliedig ar gyfrifiadau o gofrestriadau ar lefel cymhwyster, nid yw'n bosibl i ni feintioli effaith ffactorau o'r fath. Rydym wedi gwneud sylwadau ar ffactorau sy'n dylanwadu ar newidiadau mewn cofrestriadau dim ond lle rydym yn hyderus y bydd y ffactorau hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â newid.

Cysylltwch â

Ystadegydd:
Ffôn: 01633 373 250
ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: wasg@cymwysterau.cymru