Cofrestriadau dros dro TGAU mis Tachwedd 2021 ar gyfer Cymru
Adroddiad blynyddol sy’n cyflwyno data dros dro ar Gofrestriadau TGAU mis Tachwedd ar gyfer Cymru.
Pwyntiau Allweddol
- Cafwyd 13,105 o gofrestriadau ym mis Tachwedd 2021, i fyny 7,490 (133%) o fis Tachwedd 2020. Er gwaethaf y cynnydd mawr hwn, mae'r cofrestriadau'n parhau'n is nag mewn unrhyw gyfresi ym mis Tachwedd rhwng 2013 a 2019.
- Mathemateg - Rhifedd yw'r pwnc gyda’r nifer mwyaf o gofrestriadau ym mis Tachwedd, sef 44.4% o gyfanswm y cofrestriadau, o'i gymharu â 35.2% yn 2020.
- Roedd y mwyafrif (91%) o gofrestriadau TGAU mis Tachwedd 2021 ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11, i fyny 31 pwynt canran o’i gymharu â'r llynedd.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 261
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y cyfryngau
Ffôn: 01633 373 216
E-bost: cyfathrebu@cymwysteraucymru.org