Cofrestriadau dros dro TGAU mis Tachwedd 2022 ar gyfer Cymru
Adroddiad blynyddol sy’n cyflwyno data dros dro ar Gofrestriadau TGAU mis Tachwedd ar gyfer Cymru.
Pwyntiau Allweddol
- Cafwyd 20,410 o gofrestriadau ym mis Tachwedd 2022, i fyny 55.7% o 13,105 ym mis Tachwedd 2021. Roedd cyfanswm y cofrestriadau ar gyfer mis Tachwedd 2022 ychydig yn is na chofrestriadau 2018 a 2019 ond roeddent yn sylweddol uwch na 2020 a 2021.
- Mathemateg - Rhifedd yw’r pwnc gyda’r nifermwyaf o gofrestriadau ym mis Tachwedd, sef 51.4% o gyfanswm y cofrestriadau yn 2022 o’i gymharu â 44.4% yn 2021.
- Roedd y mwyafrif (91.4%) o gofrestriadau TGAU mis Tachwedd 2022 ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11, cyfran debyg i 2021.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y cyfryngau
Ffôn: 01633 373 216
E-bost: cyfathrebu@cymwysteraucymru.org