Cynllun Corfforaethol: Ymgorffori ein datganiad a'n hamcanion lles Mehefin 2024
Amlinelliad o'n hymrwymiad i les cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.
Mae'r cynllun hwn yn nodi ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ac yn manylu ar yr amcanion allweddol a fabwysiadwyd gennym i sicrhau ein bod yn bodloni'r rhwymedigaethau hynny.
Mae hefyd yn dangos pa feini prawf y byddwn yn eu defnyddio i fesur cynnydd.
Nod ein hamcanion yw:
- llunio cymwysterau sy'n paratoi ac yn cefnogi dysgwyr ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal
- datblygu cymwysterau sy'n ymateb i newidiadau economaidd-gymdeithasol
- ein gwneud yn sefydliad blaengar, cynhwysol sy'n cyflawni ar gyfer pobl Cymru