Cyd-greu'r rhestr gymeradwy o chwaraeon a gweithgareddau corfforol ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd

ADRODDIAD

Dyddiad rhyddhau:

09.04.24

ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
DYSGWYR
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Rhestr gymeradwy o chwaraeon a gweithgareddau corfforol ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd 

Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi rhestr gymeradwy newydd o chwaraeon a gweithgareddau corfforol ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd Gwneud-i-Gymru newydd 

Ym mis Mehefin 2023, fe wnaethom ni gyhoeddi’r Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer cymhwyster TGAU Gwneud-i-Gymru newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd, a fydd ar gael i’w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.  

Ers cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo, rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid gan gynnwys ymarferwyr, cynghorwyr pwnc a chynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru a’r corff dyfarnu CBAC, i gyd-greu’r rhestr gymeradwy o chwaraeon a gweithgareddau corfforol y bydd dysgwyr yn dewis o’u plith. Rydyn ni bellach wedi diweddaru'r meini prawf cymeradwyo i gynnwys y rhestr gymeradwy hon, yn ogystal â'r meini prawf y gwnaethom ni eu defnyddio i asesu addasrwydd chwaraeon a gweithgareddau corfforol.    

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r penderfyniadau rydyn ni wedi’u gwneud.