Cydraddoldeb, tegwch, a chynhwysiant mewn cymwysterau nad ydynt yn raddau a'r system yng Nghymru
Fe wnaethom gomisiynu’r ymchwil hwn gan Beaufort Research gan ein bod yn cydnabod arwyddocâd meithrin system gymwysterau deg a chyfiawn sy’n darparu cyfleoedd i bob dysgwr, waeth beth fo’u cefndir, eu gallu neu eu hamgylchiadau.
Mae'n rhan o'n hymrwymiad parhaus i ymgysylltu ar faterion sy'n ymwneud â hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a'r system gymwysterau. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio pwnc penodol – safbwyntiau ar gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant (EEI).
Y prif amcanion ar gyfer y gwaith yma oedd archwilio barn rhanddeiliaid ar gydraddoldeb, tegwch, a chynhwysiant o fewn y system gymwysterau. Roedden ni hefyd eisiau deall yn well sut roedd rhanddeiliaid pwysig yn ystyried Cymwysterau Cymru mewn perthynas ag EEI er mwyn bwydo mewn i'n amcanion cydraddoldeb ar gyfer 2024-2028.
Darllenwch yr adroddiad yma.