Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 ar gyfer Cymru

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

21.10.24

Cyfnod dan sylw:

Ebrill i Fehefin 2024

Diweddariad nesaf:

Tachwedd 2024 (dros dro).

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 ar gyfer Cymru

Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.

Nodyn diwygio

Diwygiwyd y datganiad hwn ar 21 Hydref 2024, ar ôl ei gyhoeddi ar 19 Medi 2024, gan y cyflwynwyd data wedi'i gywiro gan un corff dyfarnu ar ôl ei gyhoeddi.

Effeithiwyd ar bob adran o'r datganiad a thablau data gan y gwall, ac eithrio'r data cymwysterau galwedigaethol cymeradwy. Mae'r diwygiad wedi effeithio'n benodol ar ddata ar gyfer y grwpiau cymwysterau canlynol:

  • cymwysterau ar lefel mynediad, lefel 1, lefel 2 a lefel 3
  • cymwysterau ym meysydd pwnc y sector 'Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid' a 'Pharatoi ar gyfer Bywyd a Gwaith’
  • cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae'r diwygiad yn effeithio ar ddata o Ch3 2023 i Ch2 2024 yn gynwysedig. Mae graddfa'r diwygiad i gyfanswm tystysgrifau ar gyfer pob chwarter fel a ganlyn:

Chwarter

Cyfanswm tystysgrifau a gyhoeddwyd yn wreiddiol

Cyfanswm tystysgrifau diwygiedig

Gwahaniaeth canrannol

Ch3 2023

123,520

123,430

-0.1%

Ch4 2023

54,455

55,130

+1.2%

Ch1 2024

39,910

38,700

-3.0%

Ch2 2024

63,960

70,510

+10.2%

Mae'r datganiad diwygiedig hwn yn darparu ffigurau wedi'u cywiro ar gyfer Ch2 2024 a'r cyfnod Gorffennaf 2023 i 2024, yn ogystal â chyfanswm chwarterol a blynyddol diwygiedig ar gyfer pob chwarter yr effeithir arnynt (tabl 1). Mae'r set ddata yn darparu ffigurau tystysgrif chwarterol cywir ar gyfer cymwysterau unigol. Os oes angen ffigurau cyfanredol diwygiedig arnoch (tablau 2 i 12) ar gyfer chwarter neu gyfnod blynyddol nad yw'r datganiad hwn wedi'i gwmpasu, cysylltwch â ni yn ystadegau@cymwysterau.cymru.

Pwyntiau Allweddol:

  • Dyfarnwyd 70,510 o dystysgrifau yn chwarter 2 2024. Mae hyn yn gynnydd o 23.7% o gymharu â’r un chwarter yn 2023.
  • Rhwng Gorffennaf a Mehefin 2024, dyfarnwyd 287,765 o dystysgrifau, cynnydd o 11.8% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • O gymharu â Ch2 2023, gwelodd 12 o'r 15 sector gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch2 2024. Roedd y cynnydd cyfrannol mwyaf yn y sector ‘Hanes, Athroniaeth a Diwinyddiaeth’.
  • O gymharu â Ch2 2023, gwelodd 6 o'r 10 lefel gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch2 2024. Cymwysterau Lefel 2 a welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau.

Cyswllt

Ystadegydd

Ffôn: 01633 373 292

E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Cyfryngau

Ffôn: 01633 373 222

E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru