Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 2023 ar gyfer Cymru
Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.
Pwyntiau Allweddol:
- Dyfarnwyd 123,520 o dystysgrifau yn chwarter 3 2023. Mae hwn yn gynnydd o 0.3% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2022.
- Rhwng Hydref 2022 a Medi 2023, dyfarnwyd 256,115 o dystysgrifau, cynnydd o 5.4% o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol
- O'i gymharu â Ch3 2022, gwelodd naw o’r pymtheg sector gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch3 2023. Roedd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau ym maes Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith.
- O’i gymharu â Ch3 2022, gwelodd tri o’r deg lefel gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch3 2023. Lefel mynediad welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau.
- Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data a allai fod wedi ei effeithio gan bandemig COVID-19.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 250
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru