Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol: Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2023 ar gyfer Cymru
Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.
Pwyntiau Allweddol:
- Dyfarnwyd 54,455 o dystysgrifau yn chwarter 4 2023. Mae hyn yn gynnydd o 40.2% o gymharu â’r un chwarter yn 2022.
- Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, dyfarnwyd 271,735 o dystysgrifau, cynnydd o 11.5% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- O gymharu â Ch4 2022, gwelodd 12 o'r 15 sector gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch4 2023. Roedd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau ym maes Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal.
- O gymharu â Ch4 2022, gwelodd saith o'r deg lefel gynnydd mewn tystysgrifau yn Ch4 2023. Cymwysterau Lefel 3 a welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y tystysgrifau.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru
Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru