Cynlluniau marcio ar gyfer cymwysterau sy'n seiliedig ar wybodaeth
Canllaw rhyngweithiol, arfer da ar gynlluniau marcio.
Ar ddechrau 2018, dechreuodd Cymwysterau Cymru weithio gydag AlphaPlus Consultancy i lunio canllaw arfer da ar gynlluniau marcio. Rydym bellach yn falch iawn o allu cyhoeddi'r canllaw rhyngweithiol hwn am y tro cyntaf.
Prif ddiben y Canllaw yw helpu datblygwyr ac aseswyr cymwysterau i gynllunio, datblygu ac adolygu cynlluniau marcio. Nid yw'n ddogfen reoleiddio, ond bwriedir iddi helpu cyrff dyfarnu ac ategu eu prosesau datblygu cymwysterau presennol.
Mae wedi'i gynllunio i fod yn adnodd ymarferol, rhyngweithiol a fydd yn helpu datblygwyr ac aseswyr cymwysterau i ystyried rhai o'r egwyddorion allweddol sy'n ategu gwahanol fathau o gynlluniau marcio sy'n seiliedig ar wybodaeth. Mae hefyd yn nodi rhai o'r problemau allweddol o ran cynlluniau marcio a all effeithio ar ddilysrwydd a dibynadwyedd asesiad.
Bwriedir i'r canllaw gael ei ddefnyddio ar y sgrin fel PDF rhyngweithiol yn bennaf ond gall hefyd gael ei argraffu a'i ddefnyddio fel dogfen bapur.
Llywiwyd cynnwys y canllaw gan adroddiad ymchwil gan AlphaPlus ar nodweddion cynlluniau marcio effeithiol mewn cymwysterau sy'n seiliedig ar wybodaeth. Mae’r adroddiad llawn ar gael isod.
Rydym yn bwriadu cynnal adolygiad o gynnwys ac ymarferoldeb y Canllaw ar Gynlluniau Marcio ar ôl i gyrff dyfarnu gael cyfle i ddefnyddio'r canllaw am gyfnod o amser. Fodd bynnag, yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw adborth ar y canllaw, rhowch wybod i ni drwy e-bostio Recognitionandapproval@qualificationswales.org