Cynwysoldeb mewn systemau asesu rhyngwladol
Rydym wedi comisiynu ymchwil i fyfyrio ar sut mae awdurdodaethau rhyngwladol yn ymgorffori cynhwysiant yn eu cymwysterau ar gyfer dysgwyr ysgol uwchradd.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr ymchwil isod. Mae crynodeb gweithredol ar y dechrau sy'n rhoi trosolwg o'r cyd-destun, cefndir a chanfyddiadau allweddol.
Mae’r ymchwil wedi nodi rhai ystyriaethau allweddol i ni wrth inni barhau i ddiwygio cymwysterau yng Nghymru, gan gynnwys:
- mae cynhwysiant yn gysyniad deinamig sy'n datblygu
- mae cynhwysiant mewn systemau asesu yn ehangach na threfniadau mynediad neu addasiadau rhesymol yn unig
- strwythur cymwysterau gan gynnwys cynnwys ac iaith, yn ystyriaeth bwysig ar gyfer cynwysoldeb
- rôl technoleg ddigidol mewn perthynas â’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer cynwysoldeb mewn asesu
- sut mae trefniadau mynediad presennol yn darparu ar gyfer gwahanol anghenion dysgwyr
- cydweithio pellach gyda chyrff dyfarnu a sefydliadau cydraddoldeb yn ein gwaith diwygio
- nodi cyfleoedd i adlewyrchu ymhellach ar ystod amrywiol o safbwyntiau, cyfraniadau, a phrofiadau ym mhob maes diwygio cymwysterau, cyfaddawdu rhwng cysyniadau fel hygyrchedd a chynwysoldeb a sut y bydd hyn yn effeithio ar agweddau eraill ar ddylunio cymwysterau