Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn haf 2024

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

24.10.24

Cyfnod dan sylw:

Cyfres arholiadau haf 2019 i 2024

Diweddariad nesaf:

Hydref 2025 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn haf 2024

Mae'r datganiad yma’n cyflwyno ystadegau ar wahaniaethau yng nghanlyniadau cymwysterau yn ôl nodweddion dysgwyr.

Pwyntiau Allweddol:

Unigolion 16 oed sy’n sefyll cymwysterau TGAU

  • Yn haf 2024, roedd 22.4% o'r graddau TGAU a ddyfarnwyd i ddysgwyr benywaidd yn radd A/7 neu’n uwch, o’i gymharu â 15.8% ar gyfer dysgwyr gwrywaidd. Roedd 67.2% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr benywaidd yn C/4 neu'n uwch, o’i gymharu â 59.0% ar gyfer dysgwyr gwrywaidd.
  • Ar gyfer dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, roedd 7.3% o'r graddau a ddyfarnwyd yn haf 2024 yn A/7 neu'n uwch ac roedd 39.7% yn C/4 neu'n uwch. Ar gyfer dysgwyr  nad oeddent yn gymwys, roedd 21.3% o'r graddau yn A/7 neu'n uwch a 67.4% yn C/4 neu'n uwch.
  • Roedd 6.6% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr â darpariaeth ADY/AAA yn A/7 neu'n uwch, o'i gymharu ag 20.0% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr heb ddarpariaeth. Cyfran y graddau a ddyfarnwyd ar radd C/4 neu’n uwch oedd 34.7% ar gyfer dysgwyr â darpariaeth ADY/AAA a 65.2% ar gyfer dysgwyr heb ddarpariaeth.
  • Mae bylchau cyrhaeddiad yn amrywio yn ôl pwnc, ac mae newidiadau mewn bylchau cyrhaeddiad dros amser yn dangos patrymau gwahanol ar gyfer gwahanol bynciau a throthwyon graddau.
  • O'i gymharu â grwpiau eraill, cyflawnodd dysgwyr yn y grŵp ethnig "Asiaidd, Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd Cymreig" y canlyniadau uchaf ar bob trothwy gradd allweddol yn haf 2024. Canlyniadau ar gyfer dysgwyr yn y grŵp ethnig "Du, Du Prydeinig, Du Cymreig, Caribïaidd neu Affricanaidd" ar raddau C/4 a G/1 a welodd y cynnydd mwyaf o ran pwynt canran o'i gymharu â 2019.

Unigolion 18 oed sy'n sefyll cymwysterau Safon Uwch Gyfrannol (UG) a Safon Uwch

  • Yn haf 2024, roedd y bylchau cyrhaeddiad yn y graddau uchaf a gyflawnwyd ar lefel UG a Safon Uwch rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ehangach nag yn haf 2019. O'i gymharu â haf 2023, roedd y bwlch yn llai ar gyfer y rhan fwyaf o'r graddau, ond yn fwy ar gyfer graddau Safon Uwch A* i E.

Oherwydd y trefniadau dyfarnu gwahanol a ddigwyddodd, nid oes modd cymharu canlyniadau rhwng 2020 a 2023 yn uniongyrchol â’i gilydd, nac â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael am ganlyniadau yn ôl nodweddion disgyblion yn y datganiad Canlyniadau Arholiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cysylltu

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru