Dadansoddiad cydraddoldeb cymwysterau cyffredinol - haf 2021
Mae'r datganiad ystadegau arbrofol hwn yn diweddaru'r datganiad ystadegau swyddogol yn 2020 a gynhyrchwyd mewn ymateb i ddiddordeb rhanddeiliaid.
Pwyntiau Allweddol:
- Mae'r dadansoddiad hwn wedi defnyddio'r data mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael, ond er mwyn darparu dadansoddiad cyson mae'n canolbwyntio ar y prif grŵp oedran ar gyfer pob cymhwyster cyffredinol i ddysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yn unig. Gall ffigurau, felly, fod yn wahanol i ystadegau cyhoeddedig eraill sy'n defnyddio data mwy cynhwysfawr.
- Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data canlyniadau ar gyfer 2017-2021. Roedd y canlyniadau yn 2021 yn raddau a bennwyd gan y ganolfan yn seiliedig ar asesu gan athrawon. Y canlyniadau yn 2020 oedd y gorau o'r radd asesu canolfannau a'r radd a gyfrifwyd. Dyfarnwyd canlyniadau yn 2017-2019 yn seiliedig ar berfformiad mewn arholiadau ac asesiadau di-arholiad cyn y pandemig.
- Oherwydd meintiau sampl bach, mae data cefndir ethnig wedi'i gyfuno'n grwpiau ethnig ehangach, wedi'i gategoreiddio yn ôl Canllawiau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Er mwyn osgoi lleihau meintiau sampl ymhellach, mae'r categori 'anhysbys neu heb ei nodi' wedi'i gyfrif yn y categori cefndir ethnig lleiafrifol.
- Bu cynnydd nodedig yng nghyfran y dysgwyr TGAU sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn 2021. Gall hyn fod yn gysylltiedig â'r pandemig a gall effeithio ar y berthynas rhwng statws dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad yn 2021.
- Mae'r dadansoddiad seiliedig ar fodel ar gyfer TGAU yn defnyddio asesiad athrawon Cyfnod Allweddol 3 i reoli ar gyfer cyrhaeddiad blaenorol. Mae'r model UG a Safon Uwch yn defnyddio sgôr TGAU cymedrig i reoli ar gyfer cyrhaeddiad blaenorol. Fodd bynnag, mae carfan UG 2021 yn golygu bod y trefniadau dyfarnu anarferol yn effeithio ar sgôr TGAU 2021 yn 2020.
- Nid yw'r dadansoddiad sy'n seiliedig ar fodel yn esbonio’r gwahaniaethau mewn deilliannau rhwng grwpiau o ddysgwyr â nodweddion gwahanol (bylchau cyrhaeddiad). Mae'r dadansoddiad model-seiliedig yn cefnogi gwell dealltwriaeth o sut mae'r bylchau cyrhaeddiad wedi newid. Dylai dehongli canlyniadau'r model ystyried ansicrwydd ystadegol yr amcangyfrifon a hefyd y ffyrdd cymhleth y gall nodweddion dysgwyr ryngweithio.
- Canlyniadau allweddol
- Ar gyfer TGAU, mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y rhywiau model-seiliedig yn 2021 yn gulach nag mewn blynyddoedd blaenorol o'i gymharu â deilliannau asesu athrawon ym Mlwyddyn 9, hynny yw, mae'n agosach at y bwlch cyrhaeddiad a awgrymir o ganlyniadau Blwyddyn 9 na'r hyn a welir fel arfer mewn blynyddoedd arholiadau. Mae'r bylchau cyrhaeddiad AAA ac ethnigrwydd yn sefydlog, ac mae'r bwlch cyrhaeddiad prydau ysgol am ddim yn ehangach nag mewn blynyddoedd blaenorol.
- Oherwydd meintiau sampl bach, roedd yr ansicrwydd ystadegol sy'n gysylltiedig â'r amcangyfrifon UG a Safon Uwch mor fawr fel nad yw'r canlyniadau'n cael eu hystyried yn ddibynadwy. Darperir y canlyniadau hyn mewn atodiad ar gyfer tryloywder yn unig.
- Ar gyfer TGAU, mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y rhywiau model-seiliedig yn 2021 yn gulach nag mewn blynyddoedd blaenorol o'i gymharu â deilliannau asesu athrawon ym Mlwyddyn 9, hynny yw, mae'n agosach at y bwlch cyrhaeddiad a awgrymir o ganlyniadau Blwyddyn 9 na'r hyn a welir fel arfer mewn blynyddoedd arholiadau. Mae'r bylchau cyrhaeddiad AAA ac ethnigrwydd yn sefydlog, ac mae'r bwlch cyrhaeddiad prydau ysgol am ddim yn ehangach nag mewn blynyddoedd blaenorol.
Cysylltu
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373250
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y Wasg
Ffôn: 01633 373 216
E-bost: cyfathrebu@cymwysteraucymru.org