Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn haf 2022
Mae'r datganiad yma’n cyflwyno ystadegau ar wahaniaethau yng nghanlyniadau cymwysterau yn ôl nodweddion dysgwyr.
Pwyntiau Allweddol:
- Mae'r datganiad yma’n cyflwyno ystadegau ar wahaniaethau yng nghanlyniadau cymwysterau yn ôl nodweddion dysgwyr. Gallai ffactorau dryslyd eraill fod wedi dylanwadu ar y gwahaniaethau hyn, fel y dewis o bynciau a chyrhaeddiad blaenorol nad oedd yn bosibl eu hystyried gyda’r data a oedd ar gael. Mae hefyd yn bwysig gosod bylchau cyrhaeddiad yng nghyd-destun newidiadau yn y canlyniadau cyffredinol. Roedd trefniadau dyfarnu gwahanol ar waith yn 2020 a 2021 oherwydd bod arholiadau wedi’u canslo, a dyfarnwyd canlyniadau 2022 yn fras hanner ffordd rhwng 2019 a 2021. Ar lefel pwnc, gall yr amrywiad hwn fod yn eithaf sylweddol oherwydd newidiadau yng ngallu dysgwyr sy'n dewis astudio pwnc, meintiau cofrestru bach mewn llawer o gymwysterau a ffactorau eraill.
- Yn y rhan fwyaf o bynciau, mae bylchau cyrhaeddiad ar sail rhywedd wedi bod o blaid merched yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O'u cymharu â 2021, roedd y bylchau cyrhaeddiad ar sail rhywedd yn 2022 yn tueddu i fod yn gulach. O’u cymharu â 2019, roedd y bylchau cyrhaeddiad ar sail rhywedd yn 2022 yn tueddu i fod yn ehangach ar radd A/7 ac uwch ond yn gulach ar radd C/4 ac uwch. Fodd bynnag, nid oedd y patrymau hyn yn gyson ar draws pob pwnc.
- Yn y rhan fwyaf o bynciau, roedd bwlch cyrhaeddiad TGAU yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim ar radd A/7 ac uwch yn gulach yn 2022 o’i gymharu â 2021, ond yn fwy nag yn 2019. Ar radd C/4 ac uwch, mae mwy o amrywiaeth yn y modd y mae'r bwlch wedi newid dros amser, ac nid yw'r patrwm yn gyson ar draws pob pwnc.
- Yn y rhan fwyaf o bynciau, mae’r bwlch cyrhaeddiad TGAU yn ôl darpariaeth anghenion addysgol arbennig yn 2022 ar radd A/7 ac uwch yn gulach yn 2022 o’i gymharu â 2021, ond yn fwy nag yn 2019. Ar radd C/4 ac uwch mae'n gulach yn gyffredinol na 2021 a 2019, ond nid yw'r patrwm hwn yn gyson ar draws yr holl bynciau.
- Mae dadansoddi canlyniadau UG a Safon Uwch yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn dangos, yn gyffredinol, bod cyfran uwch o’r graddau uchaf yn cael eu dyfarnu yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, a llai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn adlewyrchu'r duedd gyffredinol mewn canlyniadau Safon Uwch ar gyfer y flwyddyn, felly mewn blynyddoedd lle mae canlyniadau'n uwch yn gyffredinol, mae'r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn fwy. Ar lefel UG, ehangodd y bwlch ar radd A yn 2022 o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
- Mae rhagor o wybodaeth i’w chael am ganlyniadau yn ôl nodweddion disgyblion yn y datganiad Canlyniadau Arholiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cysylltu
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysteraucymru.org