Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn haf 2023

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

19.10.23

Cyfnod dan sylw:

Cyfres arholiadau haf 2018 i 2023

Diweddariad nesaf:

Hydref 2024 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn haf 2023

Mae'r datganiad yma’n cyflwyno ystadegau ar wahaniaethau yng nghanlyniadau cymwysterau yn ôl nodweddion dysgwyr.

Pwyntiau allweddol

Pobl ifanc 16 oed yn astudio cymwysterau TGAU

  • Yn haf 2023, roedd 25.3% o'r graddau TGAU a ddyfarnwyd i ddysgwyr benywaidd yn radd A/7 neu'n uwch, o'i gymharu ag 17.8% ar gyfer dysgwyr gwrywaidd. Roedd 69.1% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr benywaidd yn C/4 neu'n uwch, o'i gymharu â 62.0% ar gyfer dysgwyr gwrywaidd.
  • Ar gyfer dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, roedd 8.3% o'r graddau a ddyfarnwyd yn haf 2023 yn A/7 neu'n uwch a 41.6% yn C/4 neu'n uwch. Ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn gymwys, roedd 24.1% o'r graddau yn A/7 neu'n uwch ac roedd 70.0% yn C/4 neu'n uwch.
  • Roedd 7.8% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr â darpariaeth ADY/AAA yn A/7 neu'n uwch, o'i gymharu â 22.9% o'r graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr heb unrhyw ddarpariaeth. Roedd cyfran y graddau a ddyfarnwyd ar radd C/4 neu’n uwch yn 38.2% ar gyfer dysgwyr â darpariaeth ADY/AAA a 68.2% ar gyfer dysgwyr heb unrhyw ddarpariaeth.
  • O'i gymharu â grwpiau eraill, cafodd dysgwyr yn y grŵp ethnig “Asiaidd, Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd Cymreig” y canlyniadau uchaf ar bob trothwy gradd allweddol yn haf 2023. Gwelodd y canlyniadau ar gyfer dysgwyr yn y grŵp ethnig “Du, Du Prydeinig, Du Cymreig, Caribïaidd neu Affricanaidd” y cynnydd mwyaf mewn pwyntiau canran o'i gymharu â 2019.

UG a Safon Uwch

  • Yn haf 2023, roedd 13.0% o'r graddau Safon Uwch a ddyfarnwyd i ddysgwyr 18 oed gwrywaidd a benywaidd yn raddau A*. Ar bob gradd arall, cafodd dysgwyr benywaidd ganlyniadau uwch na dysgwyr gwrywaidd. Cyflawnodd dysgwyr 17 oed benywaidd ganlyniadau UG uwch na dysgwyr gwrywaidd ar bob gradd.
  • Yn haf 2023, roedd y bylchau cyrhaeddiad yn y graddau uchaf a gyflawnwyd ar UG a Safon Uwch rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ehangach nag yn haf 2019. O'i gymharu â haf 2022, roedd y bwlch yn gulach ar radd A ar gyfer UG a gradd A* ar gyfer Safon Uwch, ac mae'r bwlch yn ehangach ar raddau A* i A Safon Uwch.

Oherwydd y gwahanol drefniadau dyfarnu a gynhaliwyd, nid oes modd cymharu canlyniadau yn 2020, 2021, 2022 a 2023 yn uniongyrchol â'i gilydd, nac â chanlyniadau mewn blynyddoedd blaenorol.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael am ganlyniadau yn ôl nodweddion disgyblion yn y datganiad Canlyniadau Arholiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cysylltu

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru