Dewis i Bawb

STRATEGAETH

Dyddiad rhyddhau:

01.01.20

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID

Strategaeth newydd i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Gyda thwf addysg cyfrwng Cymraeg, rhagwelir y bydd nifer y plant a phobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg yn cynyddu i 70% erbyn 2050.  

Mae'r strategaeth yn nodi'n glir ymrwymiad y sefydliad i’r Gymraeg, gan bwysleisio ei fod yn awyddus i weithio gyda’i bartneriaid ac i gyfrannu at flaenoriaethau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.   

Mae Dewis i Bawb yn nodi pedwar maes ffocws strategol: 

  1. Blaenoriaethu bod cymwysterau ar gael yn Gymraeg mewn addysg amser llawn, lleoliadau ôl-16, a phrentisiaethau.  
  2. Cryfhau'r gefnogaeth i gyrff dyfarnu a'u gallu i ddarparu cymwysterau cyfrwng Cymraeg.  
  3. Diwygio Grant Cymorth i’r Gymraeg Cymwysterau Cymru i gyd-fynd â'r strategaeth newydd, i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth, cymwysterau newydd a chymwysiadau arloesol.  
  4. Gwella gwybodaeth i ddysgwyr, eu hysgolion a’u colegau, a data at ddibenion rheoleiddio.