Prif nodau a chenhadaeth Cymwysterau Cymru yw sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru; a hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.
Er mwyn ei helpu i gyflawni'r nodau hyn a'r genhadaeth hon, comisiynodd Cymwysterau Cymru Beaufort Research, mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn hydref 2020 i gynnal astudiaeth ymchwil ansoddol tri cham i ddeall hyder rhanddeiliaid yn y meysydd hyn. Mae'r ddogfen hon yn adrodd ar ail gam yr astudiaeth.
Cynhyrchodd yr ymchwil adborth ar sbectrwm eang o feysydd yr oedd y rhanddeiliaid yn eu cysylltu â chymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru, gan fod cyfranogwyr yn gallu siarad yn ddigymell am yr hyn a effeithiodd ar eu hyder mewn cymwysterau ac yn y system yng Nghymru.
Mae ein diwygiadau i gymwysterau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant a Pheirianneg Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu yn rhai o'r diwygiadau mwyaf uchelgeisiol ac arwyddocaol i gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru erioed. Mae diwygio a newid bob amser yn dod â heriau ochr yn ochr â’r buddion y maent yn eu darparu, a gwaethygwyd yr heriau hyn gan y diwygiadau sy’n cyd-daro â’r pandemig byd-eang.
Yn gynharach eleni fe wnaethom gynnal Adolygiad Cyflym o gymwysterau lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac rydym yn goruchwylio nifer o gamau gweithredu i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a godwyd gan gynnwys, yn benodol, datblygiad Diploma Estynedig Lefel 3 gan CBAC. mewn Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn cefnogi datblygiad dysgwyr sydd am symud ymlaen i Addysg Uwch. Rydym yn parhau i ymgysylltu â darparwyr dysgu, gan gynnwys drwy Grŵp Cymwysterau Sector newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, i wrando ar, a mynd i’r afael â’r pryderon sydd ganddynt, lle bo’n briodol.
Yn yr un modd, rydym wedi cwblhau Adolygiad Cyflym yn fwy diweddar o weithrediad cymwysterau newydd ar gyfer Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu a addysgwyd mewn colegau AB o fis Medi 2020. Byddwn yn ymgysylltu â'r sector a chyrff dyfarnu ar y cymwysterau hyn.