Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2023 yng Nghymru

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

25.05.23

ADDYSGWYR
DYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2023 yng Nghymru

Adroddiad blynyddol sy'n cyflwyno data dros dro ar Gofrestriadau ar gyfer Arholiadau Haf 2023 yng Nghymru: TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau.

Pwyntiau Allweddol

Yn 2020 a 2021, cafodd arholiadau’r haf eu canslo oherwydd effaith pandemig COVID-19 ac fe wnaeth canolfannau bennu graddau. Yn haf 2023, nid oes unrhyw newidiadau i asesiadau, ond mae gwybodaeth ymlaen llaw wedi ei rhoi i ddysgwyr a bydd dull graddio gwahanol yn cael ei ddefnyddio. Bydd y gwahanol ddulliau hyn o ddyfarnu graddau, yn ogystal ag aflonyddwch arall oherwydd pandemig COVID-19, wedi effeithio ar ffigurau cofrestru yn y datganiad hwn. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn y nodiadau cefndir.

TGAU

  • Gwnaed 307,920 o gofrestriadau TGAU ar gyfer haf 2023. Mae hyn wedi gostwng 3.3% o'i gymharu â'r cofrestriadau TGAU ar gyfer haf 2022.
  • O'i gymharu â 2019, mae nifer y cofrestriadau yn 2023 wedi cynyddu 0.7%.
  • Dysgwyr Blwyddyn 11 yw'r rhai mwyaf tebygol o gofrestru ar gyfer TGAU yng nghyfres yr haf, gan gyfrif am 89.5% o gyfanswm y cofrestriadau.
  • Bu gostyngiad o 0.4% yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 11 yr haf hwn o gymharu â haf 2022.
  • Roedd cofrestriadau Blwyddyn 10 yn cyfrif am 6.4% o’r holl gofrestriadau TGAU yr haf hwn. Cafwyd 19,825 o gofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 10 yn haf 2023. Mae hyn yn ostyngiad o 32.2% o gymharu â’r haf diwethaf, pan oedd 29,230.
  • Gostyngodd cofrestriadau Blwyddyn 12 neu uwch 0.1% yr haf hwn, sef 3.9% o gyfanswm cofrestriadau TGAU.

Safon UG

  • Roedd 42,080 o gofrestriadau lefel UG yn haf 2023 yng Nghymru, 5.3% yn fwy nag yn haf 2022 ac 1.0% yn fwy nag yn 2019.
  • Cafwyd 36,255 o gofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 12, sef 86.2% o’r holl gofrestriadau, sy’n fwy na’r gyfran yn 2019 pan oedd 76.5% o gofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 12.
  • Mae cofrestriadau UG gan ddysgwyr Blwyddyn 12 yn 2023 yn is na 2022 ond yn uwch na 2019.
  • Roedd bron i 2.5 gwaith yn fwy o gofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 13 yr haf hwn o gymharu â 2022. Bu gostyngiad o 41.1% yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 13 yr haf hwn o gymharu â haf 2019.

Safon Uwch

  • Cafwyd 33,140 o gofrestriadau Safon Uwch ar gyfer haf 2023, 8.7% yn llai nag yn haf 2022.
  • Gwelwyd gostyngiad o 2,945 o gofrestriadau ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 13. Roedd dysgwyr Blwyddyn 13 yn cyfrif am 92.2% o'r holl gofrestriadau Safon Uwch yr haf hwn.
  • Mae nifer y cofrestriadau blwyddyn 14 ac uwch wedi gostwng 9.3% rhwng haf 2023 a haf 2022.

Mae nifer o ffactorau a all ddylanwadu ar newidiadau yn nifer y cofrestriadau ar gyfer grwpiau blwyddyn dros amser, er enghraifft newidiadau i'r canlynol:

  • Maint y boblogaeth;
  • Ymddygiad cofrestru e.e. pryd y caiff dysgwyr eu cofrestru ar gyfer eu harholiadau TGAU;
  • Nifer y cymwysterau o bob math a sefir ar gyfartaledd;
  • Y mathau o gymwysterau ôl-16 a sefir.

Gan fod y datganiad hwn yn seiliedig ar gyfrifiadau o gofrestriadau ar lefel cymhwyster, nid yw'n bosibl i ni feintioli effaith ffactorau o'r fath. Rydym wedi gwneud sylwadau ar ffactorau sy'n dylanwadu ar newidiadau mewn cofrestriadau dim ond lle rydym yn hyderus y bydd y ffactorau hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â newid.

Cysylltwch â

Ystadegydd:
Ffôn: 01633 373 250
ystadegau@cymwysterau.cymru

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru