Safonau TGAU yng Nghymru: dulliau o ddiffinio safonau
Rydym wedi cyhoeddi ymchwil gan Ganolfan Prifysgol Rhydychen ar gyfer Asesu Addysg (OUCEA) sy’n dwyn y teitl ‘Safonau TGAU yng Nghymru: dulliau o ddiffinio safonau’.
Gallwch hefyd ddarllen ein hadroddiad cryno.
Fe wnaethom gomisiynu’r ymchwil hwn i’n helpu i ddisgrifio ac esbonio sut mae safonau graddio TGAU yn gweithio yn y cymwysterau TGAU presennol Gwneud-i-Gymru, ac fel ffynhonnell wybodaeth i’n helpu i feddwl am sut y gellid gwella’r dull er mwyn ateb heriau’r cymwysterau TGAU newydd sy’n cael eu datblygu i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae rhai o ganfyddiadau'r ymchwil yn cynnwys y canlynol:
- nod gosod safonau yw sicrhau bod dysgwyr yn cael eu barnu yn erbyn safonau cyson, diffiniedig, o fewn ac ar draws carfannau, i gefnogi'r defnydd bwriedig o raddau
- mae’r dull safonau TGAU mewn blynyddoedd arferol yng Nghymru wedi’i gategoreiddio fel ‘asesu gan gyfeirio at gyrhaeddiad’, fel y’i diffinnir yn y llenyddiaeth ymchwil ar safonau
- o dan asesu gan gyfeirio at gyrhaeddiad, mae dysgwyr yn cael graddau y bwriedir iddynt adlewyrchu eu cyrhaeddiad cyfannol yn y cymhwyster ar safon sy'n debyg i'r cyrhaeddiad sy'n ofynnol ar gyfer y deilliant hwnnw yng nghymwysterau'r flwyddyn flaenorol
- mae asesu gan gyfeirio at gyrhaeddiad (yn wahanol i ddulliau safonau eraill megis asesu gan gyfeirio at y norm ac asesu gan gyfeirio at y meini prawf) yn ddull cymysg
- mae hyn yn golygu bod ystadegau a barn arbenigwyr dynol yn cael eu defnyddio i osod safonau graddio ar gyfer TGAU
- mae gan TGAU fwy nag un pwrpas ac mae'n rhaid i'r dull safonau ystyried hyn
- defnyddir graddau: i ddarparu gwybodaeth am gyrhaeddiad dysgwr ar adeg sefyll yr asesiadau, i benderfynu pwy all a phwy na all gael mynediad i gyfleoedd penodol mewn astudiaeth bellach a’r farchnad lafur, fel rhan o brosesau gwerthuso ac atebolrwydd ysgolion
- mae dylunio cymwysterau TGAU yn cyflwyno nifer o heriau sylweddol y mae'n rhaid i unrhyw ddull o ymdrin â safonau fynd i'r afael â nhw - gan gynnwys newid patrymau mynediad sy'n gysylltiedig â chymwysterau dewisol a chyfleoedd mynediad lluosog, papurau sy'n amrywio ychydig iawn o ran her dros amser a chyfuniad o ddulliau asesu mewnol ac allanol
- mae asesu gan gyfeirio at gyrhaeddiad yn ddull hyblyg sy’n caniatáu i’r pwysau a roddir ar farn arholwyr neu ystadegau yn y broses gosod safonau amrywio, gan ddibynnu ar ba dystiolaeth sy’n debygol o fod gryfach wrth fynd i’r afael â’r heriau hynny wrth iddynt godi
- er bod gosod safonau'n digwydd ar ddiwedd proses asesu, mae dulliau safonau mewn gwirionedd wedi'u gwreiddio drwy gydol cylch dylunio a chyflwyno cymwysterau
- dyma pam y byddai newid sylweddol yn y dull safonau - er enghraifft i gyfeirio at y norm neu gyfeirio at y meini prawf â goblygiadau sylweddol a fyddai’n effeithio nid yn unig yn ar brosesau graddio, ond hefyd ar gynllun cymwysterau, eu hasesiadau a phrosesau cysylltiedig, yn ogystal ag ystyr graddau, eu dehongli a’u defnydd.
- am y rhesymau hyn, mae risgiau cynhenid i newidiadau mawr o ran patrwm mewn dulliau safonau ac maent yn brin yn rhyngwladol
- bydd rhai o’r penderfyniadau cynllunio ar gyfer y TGAU a gynlluniwyd ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru – er enghraifft, cynlluniau mwy modiwlaidd/unedol – yn cyflwyno heriau o ran gosod safonau
- gall fod cyfleoedd yma i gryfhau’r dull asesu gan gyfeirio at gyrhaeddiad drwy ystyried cymedroli cymdeithasol, disgrifyddion gradd neu ddisgrifiadau neu enghreifftiau eraill o’r berthynas rhwng perfformiad a chyrhaeddiad.
Rydym yn cytuno â chanfyddiadau’r ymchwil, sy’n nodi’r ffactorau allweddol sy’n golygu bod angen dull hyblyg a chymysg o ymdrin â safonau graddio TGAU fel asesu gan gyfeirio at gyrhaeddiad. Dyma nhw:
- dibenion amryfal TGAU a’r defnydd o’r graddau, sy’n rhagdybio bod gan raddau ystyr cymaradwy ar draws dysgwyr a thros amser
- yr heriau i gyflawni cymaroldeb a gyflwynir gan y model TGAU – nid yn unig papurau sy’n amrywio ychydig o ran her o gyfres i gyfres, ond natur ddewisol a hyblyg y mynediad (a all arwain at newidiadau yn y boblogaeth sy’n astudio pwnc mewn cyfres) a natur amrywiol y pynciau, sy'n gymhleth ac yn aml yn gofyn am gyfuniad o ddulliau asesu.
Mae’r datganiad hwn yn nodi ein dull o raddio ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd Gwneud-i-Gymru.