Strategaeth Cymwysterau Cyffredinol
Mae ein cynllun strategol ar gyfer cymwysterau cyffredinol yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer rheoleiddio cymwysterau TGAU, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru dros y tair i bum mlynedd nesaf.
Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Sicrhau safonau;
- Gwerthuso newid;
- Gwella dealltwriaeth y cyhoedd;
- Cynyddu'r cymwysterau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg;
- Mabwysiadu dull cynyddrannol ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.
Nododd y cynllun hefyd yr heriau allweddol y byddwn yn eu hwynebu wrth gyflawni'r nodau a bennwyd gennym ym mhob un o'r meysydd ffocws hyn.