Strategaeth Cymwysterau Cymru

STRATEGAETH

Dyddiad rhyddhau:

01.06.18

ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID

Strategaeth Cymwysterau Cymru

Cymeradwywyd ein strategaeth ar gyfer y sefydliad ym mis Hydref 2017 ac mae'n berthnasol ar gyfer y cyfnod o 2018-22.

Yn y strategaeth hon, rydym yn nodi'r canlynol:

  • Ein rôl o fewn y system gymwysterau
  • Beth rydym am ei gyflawni
  • Sut rydym yn gweithio
  • Ein cynlluniau

Bwriedir i'r ddogfen roi trosolwg lefel uchel, ac mae'n gweithredu fel canllaw i ddogfennau manylach eraill.

Cynlluniau Ategol

Mae ein cynlluniau yn canolbwyntio'n benodol ar ein gwaith sy'n ymwneud â chymwysterau cyffredinol a chymwysterau galwedigaethol, ac yn cael eu hategu gan ein cynllun gallu corfforaethol. Bwriad y cynlluniau strategol yw nodi ein blaenoriaethau dros dair i bum mlynedd.  Fel rheoleiddiwr ymatebol, rydym yn cydnabod y gall blaenoriaethau newid, felly byddwn yn adolygu'r cynlluniau hyn bob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n berthnasol, a chânt eu hailystyried yn ffurfiol gan Fwrdd Cymwysterau Cymru ar ôl tair blynedd (yn gynt os bydd ein hadolygiad blynyddol yn awgrymu bod angen gwneud newidiadau sylweddol).

Mae'r cynlluniau strategol yn canolbwyntio ar ein gweithgarwch ac yn darparu sail ar gyfer cynllunio blynyddol (gan gynnwys dyrannu ein hadnoddau) a mesur cynnydd.  Rydym yn mesur cynnydd drwy gyflawni blaenoriaethau gweithredol a nodir yn ein cynllun busnes, a chaiff mesurau llwyddiant eu disgrifio ym mhob cynllun strategol.

Mae ein cynlluniau strategol yn ymwneud â'n diben, yr hyn rydym am ei gyflawni a'n dull gweithredu, ac felly'n adeiladu ar elfennau cynharach y strategaeth hon.