Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28
Cynllun manwl ar gyfer cyflawni ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Mae'r cynllun hwn yn amlinellu sut rydyn ni’n bwriadu cyflawni ein hymrwymiadau cydraddoldeb, gan gynnwys y rhai o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithredu mewn ffordd sy'n:
- cofleidio gwahaniaethau
- mynd i'r afael â rhagfarn ac yn hyrwyddo dealltwriaeth
- diwallu anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig gan gynnwys hil, oedran, crefydd, rhywedd, rhywioldeb, ac anabledd