Systemau asesu addysgol rhyngwladol a'r modd y maent yn cynnwys athrawon
Adroddiad yn disgrifio systemau asesu rhyngwladol a’r modd y maent yn cynnwys athrawon yn y broses asesu.
Comisiynodd y rheoleiddiwr adroddiad gan AlphaPlus i ddarparu safbwyntiau gwahanol ar systemau asesu cenedlaethol i ni eu hystyried wrth i ni ailystyried cymwysterau TGAU mewn ymateb i’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am systemau asesu mewn 12 awdurdodaeth, gyda phedwar ohonynt - Estonia, Ontario yng Nghanada, Queensland yn Awstralia a Seland Newydd - wedi'u dewis ar gyfer ymchwiliad mwy manwl.
Mae gan y pedair awdurdodaeth hyn i gyd enw da am gynnwys athrawon yn sylweddol yn y system asesu ac mae ganddynt agweddau eraill sydd o ddiddordeb i ni yng Nghymru, gan gynnwys profiad o ddiwygio diweddar neu gyfredol.