Cymwysterau Galwedigaethol ac Eraill Chwarterol

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

25.11.22

Cyfnod dan sylw:

Gorffennaf - Medi 2022

Diweddariad nesaf:

Ionawr 2023 (dros dro)

CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
ADDYSGWYR

Chwarter 3 (Gorffennaf- Medi 2022) ar gyfer Cymru

Datganiad chwarterol sy'n cyflwyno data ar ardystiadau cymwysterau galwedigaethol ac eraill i Gymru am y chwarter diweddaraf.

Pwyntiau Allweddol

  • Dyfarnwyd 123,015 o dystysgrifau yn chwarter 3 2022. Mae hwn yn ostyngiad o 3.6% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2021.
  • Rhwng Hydref 2021 a Medi 2022, dyfarnwyd 242,780 o dystysgrifau, gostyngiad o 1.2% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Rhwng Ch3 2021 a Ch3 2022 gwelodd wyth o'r pymtheg sector ostyngiad mewn tystysgrifau. Roedd y gostyngiad mwyaf mewn Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith.
  • Rhwng Ch3 2021 a Ch3 2022 gwelodd pump o'r deg lefel ostyngiad mewn tystysgrifau ac ni ddyfarnwyd tystysgrif ar lefel 8. Lefel 3 welodd y gostyngiad mwyaf o ran nifer y tystysgrifau.
  • Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data a allai fod wedi ei effeithio gan bandemig COVID-19.
  • Gall rhai ffigurau hanesyddol (chwarter 2 2022) fod yn wahanol i ddatganiadau blaenorol oherwydd bod data wedi’i ddiweddaru gan gorff dyfarnu.
  • Nid yw'r datganiad hwn bellach yn cynnwys cymwysterau Bagloriaeth Cymru na’r Dystysgrif Her Sgiliau. Ceir rhagor o wybodaeth am y newid hwn yn y nodiadau cefndir, yn ogystal â gwybodaeth am sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar yr ystadegau hyn.

 

Cyswllt

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 250
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org

Y Cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysteraucymru.org