Adroddiad Cynnydd Cynllun Iaith Gymraeg 2024-25
Ein cynnydd tuag at gofleidio’r Gymraeg a bodloni ein rhwymedigaethau statudol.
Daeth Cymwysterau Cymru o dan Reoliadau Safonau'r Gymraeg ym mis Mawrth 2025.
Fe wnaethom gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r safonau a'n Cynllun Iaith Gymraeg a datblygu cynllun gweithredu i gryfhau ein harferion presennol a sicrhau cydymffurfiaeth lawn pan ddaw'r safonau i rym ym mis Mai 2026.
- Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys manylion am ein:
- hymrwymiad i gofleidio dwyieithrwydd
- cymorth i’r Gymraeg yn y system cymwysterau
- gwaith gyda sefydliadau partner
- Cynllun Iaith Gymraeg
- cynlluniau i ddatblygu ein Strategaeth ar gyfer y Gymraeg