Asesu parhaus: Ymchwil i ddefnyddio asesu parhaus ar gyfer canlyniadau lle mae llawer yn y fantol
Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y canfyddiadau allweddol ar draws gwahanol elfennau'r ymchwil.
Penodwyd AlphaPlus Consultancy gan Cymwysterau Cymru i ddarparu gwasanaethau ymchwil mewn tri maes:
- Archwilio'r dystiolaeth ymchwil ar effeithiolrwydd asesu parhaus gan gynnwys unrhyw rôl a gyflawnir gan dechnoleg ddigidol
- Ystyried sawl enghraifft berthnasol o asesu parhaus crynodol a ddefnyddir mewn systemau asesu cenedlaethol/awdurdodaethol, gan gynnwys unrhyw rôl a gyflawnir gan dechnoleg ddigidol
- Defnyddio canfyddiadau'r ddau allbwn cyntaf i ddisgrifio senarios/cyfleoedd credadwy ar gyfer defnyddio asesu parhaus (wedi'i ddigideiddio) yng nghyd-destun cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru.