Rydyn ni’n gwybod ei bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr, i rieni, i ofalwyr, i ysgolion ac i golegau. Rydyn ni am wneud yn siŵr fod gen ti fynediad at y gefnogaeth rwyt ti ei hangen. Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael, a gelli di ddod o hyd i ddolenni i gefnogaeth ychwanegol isod.
Mae gan CBAC dudalen we bwrpasol lle gelli di gael yr holl gefnogaeth rwyt ti ei hangen. Mae gwybodaeth am sut mae arholiadau'n gweithio, sut i fynd i’r afael â chwestiynau arholiad ac awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gofalu am dy lesiant. Hefyd, mae rhai adnoddau adolygu defnyddiol yno i dy helpu di i baratoi ar gyfer dy arholiadau.
Hwb yw porth Llywodraeth Cymru lle gelli di ddod o hyd i wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru ac offer a deunyddiau addysgol am ddim. Mae hefyd yn cynnig llawer o linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim.
Mae Mind Cymru yn elusen iechyd meddwl sefydledig sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth llesiant. Mae Mind yno i ti os wyt ti'n gweld pethau'n anodd. Mae modd i ti gysylltu i gael cyngor a chymorth cyfrinachol.
Mae gan Gyrfa Cymru lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gymwysterau a hyfforddiant. Mae cynghorwyr Gyrfa Cymru yn gallu trafod yr holl opsiynau gyda ti a dy rieni, boed hynny'n golygu parhau mewn addysg, hyfforddiant, prentisiaethau neu gamu i mewn i fyd gwaith.
Mae gan wefan Comisiynydd Plant Cymru lawer o wybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau cymorth i bobl ifanc, gan gynnwys iechyd meddwl a chymorth emosiynol.
Awgrymiadau arholiad
Rydyn ni’n gwybod bod paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn anodd. Dyma rai awgrymiadau a chanllawiau i dy helpu di drwy gyfnod yr arholiadau a mwy.