Diweddariad hygyrchedd

Rydym yn comisiynu  Digital Accessibility Centre i brofi hygyrchedd ein gwefan - cyhoeddir adroddiad yn ystod Ch2 2023.

Mae ein gwefan yn dilyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) lle y bo’n bosibl, ac mae’n cyrraedd Lefel Cydymffurfio AA WC3.

Datganiad hygyrchedd

Cymwysterau Cymru sy'n rheoli’r gwefannau hyn. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwefannau hyn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300 y cant heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais, heblaw am weithredu rhai hidlyddion ar y dudalen 'Chwilio'
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.   

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â’r Canllawiau ar Hygyrchedd y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

Mae ein harchwiliad cydymffurfio diweddaraf ar y wefan - a gynhaliwyd ar 10/02/23 - yn nodi nad yw elfennau canlynol y wefan hon  yn gwbl hygyrch:

  • ni ddylai rhai dolenni sy'n agor mewn tabiau / ffenestri newydd gael eu tagio ar gyfer technoleg gynorthwyol
  • nid yw rhai teitlau a adeiladwyd fel tagiau testun yn cael eu labelu fel penawdau ar gyfer technoleg gynorthwyol
  • nid yw rhai tudalennau'n cynnwys dolenni cudd sy'n caniatáu blociau sgipio
  • ni ddisgrifir rhai gwrthrychau a thestun wedi'u gwreiddio o ddelweddau ar gyfer technoleg gynorthwyol
  • nid yw rhai ffurflenni chwilio wedi'u tagio ar gyfer technoleg gynorthwyol

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Rydym yn croesawu eich sylwadau; er mwyn rhoi gwybod i ni am unrhyw broblemau rydych yn eu cael, neu unrhyw nodweddion a fyddai’n ddefnyddiol i chi, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.