Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, ein nod yw diogelu dysgwyr a magu hyder y cyhoedd.

Canllawiau manwl ar bob agwedd ar oruchwylio arholiadau

Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, ein nod ni yw diogelu dysgwyr a meithrin hyder y cyhoedd.

Rydyn ni wedi creu chwe ffilm arweiniad byr ac adnoddau ategol, sydd wedi’u cynllunio i helpu swyddogion arholiadau yng Nghymru wrth hyfforddi goruchwylwyr.

Pennod 1 - Rôl y goruchwyliwr

Pennod 2 - Yr Ystafell Arholiad

Pennod 3 - Goruchwylio Arholiadau

Pennod 4 - Goruchwylio Arholiadau - parhad

Pennod 5 - Trefniadau Mynediad

Pennod 6 - Trefniadau Mynediad - parhad

Gall swyddogion arholiadau gael mynediad at yr adnoddau ategol ar Hwb Swyddogion Arholiadau Cymru. Mae'r adnoddau wedi'u datblygu i'w defnyddio ochr yn ochr â'r ffilmiau ac ar y cyd â dogfennaeth y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) a gwybodaeth sy’n benodol i ganolfannau, er mwyn sicrhau bod canolfannau'n bodloni meini prawf arolygu'r JCQ.

Mae dogfen ganllaw ar gael i gefnogi swyddogion arholiadau gyda 'Beth, Pam a Sut' i ddefnyddio'r adnoddau a'r ffilmiau.

Gysylltu â’n Tîm Ymgysylltu Strategol:

Annie Allitt - annie.allitt@cymwysterau.cymru
07464 543 621 neu 01633 373 299

Arron Watkins - arron.watkins@cymwysterau.cymru
07464 543 631 neu 01633 373 247