Cyflwyniad

Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn gymhwyster Lefel 3 sy’n cefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar sy’n barod i gymryd eu lle mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy ac yn y gweithle.

Mae'n hyrwyddo dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi, gyda dysgwyr yn cael eu hannog i ddewis meysydd astudio sydd o ddiddordeb personol ac sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae cyfleoedd i ddysgwyr symud ymlaen o’r elfen datblygu sgiliau sydd wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru, ac i ymwneud â materion cyfoes a phwysig fel dinasyddion Cymru a’r byd.

Mae'r cymhwyster newydd hwn yn cymryd lle'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn uniongyrchol.

Manyleb

Cyflwynir Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch gan CBAC, a ddatblygodd y cymhwyster yn unol â'n meini prawf cymeradwyo, ac mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid.

Dechreuodd y cymhwyster gael ei addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2023, a disgwylir yr ardystiad cyntaf yn haf 2025.

Yn dilyn cymeradwyo'r cymhwyster, buom yn gweithio'n agos gyda CBAC wrth iddyn nhw ddatblygu'r fanyleb a dogfennau eraill allweddol y cymhwyster. Mae rhagor o wybodaeth ynghyd â dogfennau allweddol ar gael ar wefan CBAC.

Rydym yn eich annog i ymweld â gwefan CBAC i weld y datblygiadau diweddaraf, dogfennau ategol, adnoddau a hyfforddiant.

Dilyniant

Mae Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru yn ofyniad derbyniol i brifysgolion y mae mwyafrif y myfyrwyr yng Nghymru yn eu mynychu.

Mae'r cymhwyster yn cario'r un pwyntiau UCAS â Safon Uwch ac mae’n cael ei gydnabod gan brifysgolion ar draws y DU ac yn fyd-eang fel cymhwyster sy’n cyfateb i Safon Uwch.

Mae'n cael ei raddio yn yr un ffordd â Safon Uwch, gan ddefnyddio'r raddfa A* - E.

Tystysgrifau Her Sgiliau

Ar lefelau Sylfaen a Chenedlaethol, mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yr un maint â TGAU.

Mae'n gymhwyster annibynnol sy'n cael ei raddio fel a ganlyn

  • Sylfaen Lefel 1 – Llwyddo* a Llwyddo
  • Cenedlaethol Lefel 2– A i C

Mae rhagor o wybodaeth am y Dystysgrif Her Sgiliau ar lefel Genedlaethol/Sylfaen ar wefan CBAC.

Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau ar lefel Genedlaethol/Sylfaen yn cael ei hadolygu fel rhan o’n gwaith i sefydlu cynigion ar gyfer y Cynnig Llawn o gymwysterau i ddysgwyr 14-16 oed. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn ar gael yma.

Y Cynnig Llawn 14-16 | Cymwysterau Cymru

Rhagor o wybodaeth

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Ar gyfer dogfennau, adnoddau a chyfleoedd hyfforddi allweddol

Lefel 3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch | CBAC

Gallwch hefyd chwilio am y cymhwyster ar Cymwysterau yng Nghymru (QiW) a chlicio ar Gwybodaeth Perfformiad a Chwricwlwm:

Cymwysterau’r Dystysgrif Her Sgiliau

Manylebau, adroddiadau, llawlyfrau cyflwyno a gweinyddol

Gallwch hefyd chwilio am y cymhwyster ar Cymwysterau yng Nghymru (QiW) a chlicio ar Gwybodaeth Perfformiad a Chwricwlwm:

Tystysgrif Her Sgiliau - Cenedlaethol/Sylfaen