Mae'r meini prawf cymeradwyo a'r gofynion lefel pwnc yn amlinellu'r rhagofynion y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu bodloni er mwyn i ni gymeradwyo cymhwyster i'w ddefnyddio ar gyrsiau addysg sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus yng Nghymru.
Mae tri math o ddogfennaeth maen prawf ar gyfer Safon Uwch ac UG:
-
Meini prawf cymeradwyo TAG UG a Safon Uwch: Mae hwn yn feini prawf cymeradwyo lefel cyfres sy'n berthnasol i bob pwnc UG a Safon Uwch.
-
Meini prawf cymeradwyo lefel pwnc: Mae'r dogfennau yma yn nodi ein gofynion lefel cymhwyster. Mae hyn yn cynnwys y pwrpas a'r nodau, y cynnwys, y trefniadau asesu, a'r graddio ac adrodd ar hyn. Mae'r dogfennau yma ar gael ar gyfer pynciau yr ydym wedi'u cymeradwyo i'w haddysgu ers 2016.
-
Gofynion lefel pwnc: Mae'r dogfennau yma yn nodi'r nodau ac amcanion, y cynnwys a'r amcanion asesu ar gyfer pob cymhwyster. Mae'r dogfennau hyn ar gael ar gyfer pynciau a gafodd eu cymeradwyo am y tro cyntaf cyn 2016.
Rydym yn y broses o uwchlwytho’r dogfennau yma. Diolchwn am eich dealltwriaeth ac amynedd.
Gellir diweddaru'r dogfennau hyn gyda mân ddiwygiadau ar wahanol adegau yn ystod y broses gymeradwyo ac ail-gymeradwyo.
Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth gefndirol am y dogfennau hyn yma.
Meini prawf cymeradwyo cymhwyster TAG UG a Safon Uwch |
Meini prawf cymeradwyo lefel pwnc |
|