Cyflwyniad

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru wedi'u cynllunio i asesu'r sgiliau allweddol y byddi di eu hangen ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.

Maen nhw’n rhoi sylw i bedwar sgil allweddol:

  • cymhwyso rhif
  • cyfathrebu
  • llythrennedd digidol
  • cyflogadwyedd

Mae’r rhan fwyaf o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar gael o Lefel Mynediad 1 i Lefel 3.

Mae'r cymwysterau hyn wedi'u datblygu i'w defnyddio mewn lleoliadau addysg bellach, lleoliadau dysgu seiliedig ar waith, lleoliadau dysgu oedolion yn y gymuned ac mewn lleoliadau amgen.

Ymgynghoriad Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer dylunio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru newydd mewn tri maes pwnc:

  • cymhwyso rhif
  • cyfathrebu
  • llythrennedd digidol

Fe wnaethom gyhoeddi ein bwriad i'w diwygio yn 2024 yn dilyn adolygiad dwy flynedd manwl. 

Yn ystod yr adolygiad hwnnw, cynhaliodd tîm Cymwysterau Cymru ymchwil helaeth, gan gynnwys adborth manwl am gyfrededd a hydrinedd y cymwysterau a'u hasesiadau.

Camau Nesaf

Rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiad ar adborth ein hymgynghoriad yn nhymor yr haf 2026. Bydd y cymwysterau diwygiedig ar gael i ganolfannau o 2028.

Dysgwch fwy a darllenwch yr adroddiad ymgynghori.

Darganfyddwch fwy a darllenwch yr adroddiad.

Dulliau asesu

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn cael eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys tasgau dan reolaeth, profion cadarnhau ar y sgrin, a thrafodaethau strwythuredig.

Cyrff dyfarnu

Mae Cymwysterau Cymru wedi cymeradwyo pedwar corff dyfarnu sy'n datblygu ac yn dyfarnu cymwysterau Sgiliau Hanfodol, gan gynnwys eu hasesiadau - Agored Cymru, City & Guilds, Pearson a CBAC.

I gael gwybod pa gymwysterau Sgiliau Hanfodol maen nhw’n eu cynnig, edrycha ar y wybodaeth ddiweddaraf ar eu gwefannau:

Cofrestru

Mae gan raglenni dysgu mewn fframweithiau addysg bellach a phrentisiaethau ofynion sgiliau penodol ar gyfer cofrestru a chwblhau. Nid Cymwysterau Cymru sy'n gosod y gofynion hyn, ond darparwyr dysgu a hyfforddiant, cyflogwyr neu Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhan fwyaf o raglenni a phrentisiaethau dysgu a hyfforddi yn gofyn i ddysgwyr fod wedi ennill cymhwyster Lefel 2 mewn llythrennedd a rhifedd; mae hyn yn cyfateb i radd C/4 mewn TGAU Saesneg a/neu Cymraeg a Mathemateg a/neu Rhifedd.

Os nad yw dysgwr wedi cyflawni'r lefel hon, fel arfer bydd angen iddo ddilyn cymhwyster Sgiliau Hanfodol mewn Sgiliau Cyfathrebu a/neu Gymhwyso Rhif.

Mae rhai rhaglenni dysgu a fframweithiau prentisiaethau hefyd yn gofyn i ddysgwyr fod wedi ennill cymhwyster Lefel 3 mewn llythrennedd a/neu rifedd ac mae rhai yn gofyn am gymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Sgiliau Llythrennedd Digidol.

Os wyt ti dros 16 oed ac eisoes wedi cofrestru ar raglen ddysgu mewn addysg bellach neu drwy ddarparwr hyfforddiant, dylet ti siarad â'th ddarparwr dysgu i ddeall pa gymwysterau mae angen i ti eu cymryd.

Os wyt ti dros 16 oed ac nad wyt ti’n astudio mewn addysg neu hyfforddiant ar hyn o bryd, dylet ti gysylltu â'th ddarparwr addysg bellach neu hyfforddiant agosaf.

I gael rhagor o wybodaeth, cer i Addysg Bellach | Addysgwyr Cymru neu Sefydliadau Addysg Bellach: manylion cyswllt | LLYW.CYMRU 

Rhagor o wybodaeth

Cyrff dyfarnu

Fel sydd wedi’i amlinellu uchod, mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu darparu gan un o'r cyrff dyfarnu canlynol.

Mae modd i ti ddod o hyd i adnoddau ar gyfer dy gymhwyster penodol di drwy fynd i wefan y corff dyfarnu perthnasol neu mae modd i ti gael rhagor o wybodaeth ym Mhecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru.

Datblygu tasgau asesu

Rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau i roi help llaw i ganolfannau sy'n darparu ac yn asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol i ddatblygu, a chyflwyno i'w cymeradwyo, eu tasgau dan reolaeth a'u cynlluniau marcio canolfan-benodol eu hunain. Nod y ddogfen ganllaw yw tywys canolfannau drwy'r prosesau datblygu, cymeradwyo a defnyddio cychwynnol.

Mae'r canllaw llawn i'w weld yma.

Egwyddorion Dylunio

Mae Egwyddorion Dylunio yn amlinellu'r rhesymeg, y strwythur, y nodau, y deilliannau dysgu a'r gofynion asesu ar gyfer cyfres cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.  Mae modd dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o'r Egwyddorion Dylunio yma.