Bob blwyddyn rydym yn darparu grantiau i gefnogi'r argaeledd o gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Polisi Grantiau

Mae ein Polisi Grantiau yn gosod yr egwyddorion rydym yn eu dilyn wrth ystyried y grant ar gael.

Y grantiau sydd ar gael

  • Y Grant Cymorth i’r Gymraeg – Pwrpas y cyllid grant hwn yw cefnogi pob corff dyfarnu cydnabyddedig wrth iddynt alluogi dysgwyr i gwblhau cymwysterau rheoleiddiedig drwy gyfrwng y Gymraeg.  
  • Grant Cymraeg i Oedolion – Pwrpas y cyllid grant hwn yw cefnogi darparu arholiadau Cymraeg i Oedolion.
  • Grant Cymorth Datblygu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 – mae'r grant hwn wedi ei gynllunio i gynorthwyo cyrff dyfarnu sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol i gefnogi costau datblygu cychwynnol wrth baratoi cymwysterau Ton 3 yn barod i'w haddysgu am y tro cyntaf yn 2027.

Gwahoddir cyrff dyfarnu i gyflwyno cynnig ffurfiol ar gyfer un o’r grantiau uchod. Bydd Cymwysterau Cymru’n darparu grant yn amodol ar fodloni’r meini prawf a osodir.

Y Grant Cymorth i’r Gymraeg

Mae’r ffenest ymgeisio ar gyfer grantiau nawr yn agored ac yn cau am hanner nos 27 Chwefror 2026. Mae modd dod o hyd i’r Canllawiau Ymgeisio isod:

Mae ceisiadau am y grant hwn bellach yn ddigidol a rhaid eu cwblhau drwy wefan Dweud Eich Dweud Cymwysterau Cymru erbyn 27 Chwefror 2026. I gael mynediad at y ffurflen gais a’r deunyddiau ategol, bydd angen i ymgeiswyr gofrestru cyfrif ar Dweud Eich Dweud a mewngofnodi. Rydyn ni’n rhagweld y byddwn ni’n hysbysu cyrff dyfarnu am y penderfyniadau dyfarnu erbyn canol mis Ebrill 2026.

Nodwch: Er ein bod yn annog ymgeiswyr i ystyried a ydynt yn gallu cwblhau'r holl weithgareddau y gwnaed cais amdanynt o fewn blwyddyn ariannol 2026/27, byddwn yn ystyried ceisiadau am raglenni gwaith tymor canolig a thymor hwy a allai gynnwys datblygiadau cynyddrannol sy'n mynd y tu hwnt i gylch blwyddyn ariannol.

Rydym yn cadw'r hawl i dderbyn ceisiadau y tu allan i'r ffenestr ymgeisio, fodd bynnag bydd hyn yn amodol ar argaeledd cyllid felly rydym yn argymell bod ceisiadau'n cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau.

Diagram yn dangos cynnydd cymhwysiad ar gyfer grant cymorth Cymraeg

Blaenoriaethau strategol

Ar gyfer 2026/27, ein Blaenoriaeth Gyffredinol ar gyfer y Grant Cymorth i’r Gymraeg yw cefnogi cymwysterau a gynlluniwyd: 

  • i'w defnyddio gan ddysgwyr 14-19 oed ar raglenni dysgu llawn amser sydd wedi’u hariannu a/neu
  • i'w defnyddio ar brentisiaethau a ariennir yn gyhoeddus.

Rydym yn rhagweld defnyddio'r rhan fwyaf o'n cyllid sydd ar gael ar gyfer cymwysterau sy'n dod o fewn y flaenoriaeth gyffredinol hon, fodd bynnag, croesewir ceisiadau am gymwysterau nad ydynt yn dod o fewn y flaenoriaeth hon. Byddwn ni hefyd yn blaenoriaethu cymwysterau lle y mae galw a/neu angen amdanynt wedi’i nodi.

Yn ein barn ni, mae'n well sicrhau bod cymwysterau ar gael i ddysgwyr yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r adeg y maen nhw’n cael eu haddysgu gyntaf. Mae'r dull hwn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd canolfannau yng Nghymru yn cael eu hannog i fabwysiadu cymwysterau newydd ac i roi cynnig gweithredol a chyfartal i ddysgwyr o'r cychwyn cyntaf. 

Nodweddion is-flaenoriaeth

O fewn ein Blaenoriaeth Gyffredinol, byddwn yn rhoi blaenoriaeth ychwanegol i geisiadau sy’n bodloni un neu ragor o’r nodweddion canlynol:

  • Cymwysterau newydd sydd wedi’u cynllunio i'w haddysgu gyntaf o fis Medi 2026 neu 2027 (gall y rhain ddisodli'r cymwysterau presennol neu beidio).
  • Cymwysterau sydd wedi cael eu diweddaru neu eu hadolygu'n ddiweddar.
  • Cymwysterau lle y mae angen a/neu alw amdanynt wedi’i nodi gan randdeiliaid allweddol megis darparwyr dysgu, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a Llywodraeth Cymru.
  • Cymwysterau sydd wedi’u nodi’n flaenoriaeth drwy weithgareddau Cymwysterau Cymru, megis Adolygiadau Sector, y Grwpiau Cymwysterau Sector, a gwaith mapio cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
  • Gweithgareddau i gefnogi asesu dysgwyr sydd wrthi’n cwblhau cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg. Er enghraifft, cefnogi gweithgareddau Sicrhau Ansawdd Allanol yn Gymraeg neu gyfieithu papurau arholiad i’r Gymraeg. Cefnogir gweithgareddau o’r fath dan amgylchiadau eithriadol yn unig.

Rhaid bod Dyddiad Dechrau hwyraf Dynodi/Cymeradwyo’r cymhwyster o leiaf dwy flynedd ar ôl dyddiad dyfarnu cyllid y grant, oni bai bod ymrwymiad clir gan y corff dyfarnu i estyn ac/neu ddisodli’r cymhwyster gyda chymhwyster dwyieithog newydd.

Os bydd gennych gwestiwn am y broses ymgeisio, cysylltwch â grantiau@cymwysterau.cymru

Grant Cymorth Datblygu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16

Ym mis Mai 2025, cyhoeddwyd ein bwriad i sefydlu grant pwrpasol newydd a fyddai'n cefnogi cyrff dyfarnu cydnabyddedig gyda datblygiad cychwynnol y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16.

Mae'r grant yn darparu cyllid grant rhannol, untro i gefnogi cyrff dyfarnu sydd wedi cael cydnabyddiaeth ar gyfer y Cymwysterau Cenedlaethol gyda chostau datblygu cychwynnol i wneud cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen, a'r Gyfres Sgiliau ar gael yn ddwyieithog i'w haddysgu am y tro cyntaf yn 2027.

Rydyn ni’n cydnabod bod cyrff dyfarnu yn wynebu heriau wrth ddatblygu cymwysterau newydd sbon. Mae'r heriau hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wneud y cymwysterau hyn yn gwbl ddwyieithog. Mae cyrff dyfarnu hefyd yn debygol o wynebu costau sylweddol ar adeg pan allai nifer y bobl sy'n manteisio ar gymwysterau yn y lle cyntaf fod yn isel. Drwy sefydlu'r grant hwn, rydyn ni am helpu i ddiogelu costau system rhag cael eu talu gan gynnydd mewn ffioedd ar gyfer canolfannau.

Cyfanswm y cyllid grant sydd ar gael ar gyfer y cynllun hwn yw £550,000, a bydd hyn yn cael ei ddyrannu i gyrff dyfarnu dros ddwy flynedd ariannol.

Dyfernir y gyfran gyntaf (2025-2026) pan fydd corff dyfarnu yn cyflwyno cymhwyster am y tro cyntaf fel rhan o'r broses gymeradwyo. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi dyrannu £336,545 i wyth corff dyfarnu.

Dyfernir yr ail gyfran ym mis Medi (2026-2027) pan fydd y cymhwyster wedi cael ei gymeradwyo a phan bydd y manylebau wedi cael eu cyhoeddi.

Byddwn ni’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth ynghylch dyrannu'r grant hwn maes o law.

Mae'r grant hwn yn gynllun ar wahân i'n Grant Cymorth i’r Gymraeg cystadleuol sydd eisoes wedi ei sefydlu.

Grantiau a Ddyfarnwyd 2025/2026

Cliciwch yma i lawrlwytho dogfen Cymwysterau’r Grant Cymorth i’r Gymraeg 2025-2026

 

Grant: Grant Cefnogi’r (cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26: £128,786.96

Pwrpas y grant: Mae'r cyllid grant er mwyn cefnogi’r cymwysterau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg 

Derbynnydd  

Dyddiad Dyfarnu  

Gwerth 

1st4Sport

Mai -25 

≤£6,028.96 

Agored Cymru 

Mai -25 

≤£14,273.40 

City & Guilds 

Mai -25 

≤£19,000 

EAL 

Mai -25 

≤£6,681.12 

Lantra 

Mai -25 

≤£63,994 

Kings Trust 

Mai -25 

≤£5,358.80 

VTCT 

Mai -25 

≤£13,450.68 

Grant: Grant Cefnogi’r Gymraeg (cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26: £140,000

Grant: Grant Cymraeg i Oedolion (cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26: £200,000)

Pwrpas y grant: Mae'r cyllid grant yn cefnogi’r gwaith o ddarparu arholiadau Cymraeg i Oedolion 

Derbynnydd

Dyddiad Dyfarnu

Gwerth  

CBAC

Gorffennaf-25 

≤£200,000