UG a Safon Uwch

Mae cymwysterau UG a Safon Uwch yn gallu bod yn ddewis gwych i ddysgwyr sydd eisiau parhau â'u haddysg ar ôl gorffen yr ysgol yn 16 oed. Mae'r cymwysterau hyn yn agor drysau i fynd i'r brifysgol, dilyn hyfforddiant pellach, neu gael yr yrfa ddelfrydol.

Pa bynciau UG a Safon Uwch sydd ar gael yng Nghymru? 

Mae bron i 50 o bynciau UG a Safon Uwch gwahanol y gall ysgolion a cholegau eu cynnig yng Nghymru.

Mae’r rhain wedi cael eu rhannu’n gymwysterau cymeradwy a dynodedig. 
Cymwysterau cymeradwy yw'r rhai sydd wedi'u datblygu'n benodol i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.

Cymwysterau dynodedig yw'r rhai sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru, ond sydd wedi'u datblygu ar gyfer dysgwyr sy'n byw mewn mannau eraill (fel arfer yn Lloegr).

Tri dysgwr yn ffilmio o flaen sgrin werdd, gydag un yn dal camera fideo ac yn ffilmio ei ddau gyd-ddisgybl.

Mae cymwysterau Safon Uwch cymeradwy yng Nghymru wedi'u strwythuro mewn dwy ran: 

      • unedau UG
      • unedau U2 

Gyda'i gilydd, mae rhain yn ffurfio'r cymhwyster Safon Uwch llawn.  

Mae rhai dysgwyr yn dewis dilyn cymwysterau UG mewn pynciau penodol heb barhau i U2. Gall hyn fod yn ffordd dda o:

      • gadw opsiynau ar agor
      • astudio ystod ehangach o bynciau
      • dangos sgiliau mewn meysydd sy'n ategu cymwysterau Safon Uwch llawn

Yng Nghymru, mae graddau UG yn ymddangos ar dystysgrifau dysgwyr. Mae hyn yn dystiolaeth o gyflawniadau pob dysgwr, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n parhau i'r cymhwyster Safon Uwch llawn. Mae cymwysterau UG yn cael eu graddio A–E ac mae cymwysterau Safon Uwch yn cael eu graddio A*–E.  

Pynciau UG a Safon Uwch cymeradwy

Mae cymwysterau UG a Safon Uwch cymeradwy yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog gan CBAC.  

Pynciau UG a Safon Uwch dynodedig

Mae cymwysterau UG a Safon Uwch dynodedig ar gael yn Saesneg (ac eithrio electroneg, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg) ac maen nhw’n cael eu darparu gan y gyrff dyfarnu AQA, Eduqas neu OCR.  

Ar gyfer y pynciau hyn, mae UG yn gymhwyster annibynnol a dydy’r graddau ddim yn cyfrannu at y cymhwyster Safon Uwch llawn.

Cymwysterau yng Nghymru

Gall ysgolion a cholegau ddod o hyd i fanylion yr holl gymwysterau UG a Safon Uwch cymeradwy a dynodedig, gan gynnwys teitlau cymwysterau, rhifau, a dyddiadau dechrau a gorffen, ar ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW).  

Dilyniant o UG a Safon Uwch ac ymlaen

Dysgu blaenorol

Cyn dechrau cwrs UG, bydd dysgwyr wedi cwblhau eu hastudiaeth Cyfnod Allweddol 4 (Blynyddoedd 10 ac 11). Byddan nhw wedi cwblhau cymwysterau Lefel 1 neu Lefel 2, yn aml TGAU neu gymhwyster cyfatebol.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau UG a Safon Uwch does dim gofynion dysgu blaenorol ac mae unrhyw ofynion sy’n cael eu gosod ar gyfer mynediad i gwrs yn ôl disgresiwn yr ysgol neu'r coleg. Bydd dysgwyr fel arfer wedi cyflawni cymwysterau sy'n cyfateb i Lefel 2 yng Nghyfnod Allweddol 4 (C neu uwch mewn cymwysterau TGAU), gyda ffocws ar Gymraeg, Saesneg a mathemateg.

Mae rhai manylebau UG a Safon Uwch, megis y rhai mewn mathemateg a'r gwyddorau, yn adeiladu ar yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd wrth astudio TGAU. 

Beth nesaf ar ôl UG a Safon Uwch?  

Ar ôl astudio Safon Uwch, mae dysgwyr yn gallu dewis nifer o lwybrau, gan gynnwys: 

    • astudio mewn prifysgol
    • astudiaeth addysg uwch arall, megis gradd sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch
    • prentisiaethau neu ddysgu seiliedig ar waith arall
    • mynd yn syth i gyflogaeth â thâl


Cymharu UG a Safon Uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae UG a Safon Uwch yr un maint a'r un trylwyredd ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Maen nhw’n cael eu parchu'n gyfartal gan brifysgolion a chyflogwyr ledled y DU.

Ar gyfer UG a Safon Uwch yng Nghymru:

      • mae persbectif Cymreig yn cael ei gynnwys yn y cwrs pan fo'n briodol
      • mae asesiad ymarferol yn cael ei ddefnyddio i asesu ystod lawn o sgiliau a chyfrannu at y radd derfynol
      • mae unedau UG ac U2 yn cyfrannu tuag at y radd Safon Uwch derfynol

Dyma grynodeb o'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng lefelau UG a Safon Uwch ar draws y tair gwlad:  

 

Cymru

Lloegr

Gogledd Iwerddon

Rheoleiddiwr

Cymwysterau Cymru

Ofqual

CCEA
(Ddim ar gael yng Nghymru)

Lefel Fframwaith Cymwysterau ac Asesiadau

Lefel 3

Lefel 3

Lefel 3

Opsiwn i ddilyn UG annibynnol?  

Oes

Oes

Oes

Cyfraniad unedau UG i'r radd Safon Uwch derfynol

40%

0%

40%

Strwythur graddau

UG: A–E
Safon Uwch: A*–E

UG: A–E
Safon Uwch: A*–E

UG: A–E
Safon Uwch: A*–E

Oriau dysgu dan arweiniad

UG: 180
Safon Uwch: 360

UG: 180
Safon Uwch: 360

UG: 180
Safon Uwch: 360

Asesu

Unedol: gellir sefyll asesiadau trwy gydol y cymhwyster.

Llinol: caiff pob asesiad ei sefyll ar ddiwedd y flwyddyn.

Unedol: gellir sefyll asesiadau trwy gydol y cymhwyster.

Ailsefyll

Gellir ailsefyll pob uned unwaith.

Rhaid i ddysgwyr ailsefyll pob arholiad, ond gellir ailddefnyddio marciau asesiadau di-arholiad.

Gellir ailsefyll pob uned unwaith.

Ein rôl ni wrth reoleiddio UG a Safon Uwch

Fel rheoleiddiwr, rhaid i ni sicrhau bod cymwysterau cymeradwy a ddyfernir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru ac yn cynnal hyder y cyhoedd yn eu trylwyredd a'u gwerth. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag Ofqual i oruchwylio'r broses o gyflwyno a dyfarnu'r cymwysterau dynodedig yn ddiogel.  

Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n gosod meini prawf penodol y mae'n rhaid i gymwysterau UG a Safon Uwch eu bodloni. Mae hyn yn ein galluogi ni i sicrhau eu bod yn addas i'r pwrpas ac yn debyg i gymwysterau cyfatebol sy’n cael eu darparu mewn mannau eraill.