Trosolwg a chanlyniadau Haf 2023
Yn yr adran hon, fe welwch fanylion y cymwysterau a ddyfarnwyd yr haf yma yn ogystal â gwybodaeth cefndirol ac adroddiadau trosolwg.
Mae cyngor hefyd am eich camau nesaf ar ôl derbyn eich cymwysterau.
Adolygiadau o gyfres arholiadau haf 2023
Mae dau adolygiad ar wahân - un yn edrych ar gymwysterau cyffredinol (TGAU, UG, Safon Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau) ac un arall sy'n sôn am gymwysterau galwedigaethol
Canllawiau canlyniadau haf 2023
Rydym hefyd wedi cyhoeddi dadansoddiad manwl o ganlyniadau arholiad eleni.
Data canlyniadau
Am grynodeb byr o'r data canlyniadau - cymerwch olwg ar ein ffeithluniau.
Dyfarnu cymwysterau
Eleni, mae’r daith yn ôl i drefniadau cymwysterau cyn y pandemig yn parhau. Cafodd arholiadau eu cynnal unwaith eto yn ystod mis Mai a mis Mehefin, a chafodd asesiadau di-arholiad eu cwblhau mewn llawer o bynciau hefyd.
Cafodd rhai newidiadau eu gwneud er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr oedd yn sefyll arholiadau ffurfiol, ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw, ynghyd â dull graddio cefnogol.
Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, mae ein rôl yn cynnwys goruchwylio CBAC a chyrff dyfarnu eraill wrth iddyn nhw ddyfarnu graddau dysgwyr. Yn ystod y pandemig, roedd y canlyniadau'n wahanol i flynyddoedd blaenorol. Felly, rydyn ni wedi gweithredu dull ychydig yn wahanol yr haf yma wrth i ni weithio tuag at ddychwelyd i drefniadau cyn y pandemig.
Yr haf yma, bydd canlyniadau cenedlaethol cymwysterau CBAC fwy neu lai hanner ffordd rhwng y canlyniadau a ddyfarnwyd yn 2019 (y flwyddyn olaf cyn y pandemig) a 2022 (y flwyddyn gyntaf i ddysgwyr sefyll arholiadau wrth i ni ddod allan o'r pandemig).
Fel bob amser, mae cynnydd dysgwyr yn flaenoriaeth. Felly, rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda chyrff dyfarnu i gytuno ar weithdrefnau ar gyfer dyfarnu graddau eleni sy'n adeiladu ar y drefn arferol, tra hefyd yn darparu cynllun diogelwch i ddysgwyr.
Proses apelio
Os nad wyt ti wedi cael y canlyniadau roeddet ti wedi’u disgwyl, paid â mynd i banig. Siarada gyda dy athro neu ddarlithydd i drafod dy opsiynau. P’un a wyt ti’n ystyried apelio yn erbyn dy radd neu ailsefyll arholiad, mae’n bwysig siarad gyda dy athro neu ddarlithydd cyn gynted â phosibl ar ôl i ti gael dy ganlyniadau.
Mae modd i ysgolion a cholegau apelio ar ran dysgwr, fel mewn blynyddoedd blaenorol. Gwylia ein fideo ar apeliadau i gael rhagor o wybodaeth am y broses.
Ble nesaf?
Nawr bod canlyniadau eleni wedi cael eu cyhoeddi, efallai y bydd dysgwyr a rhieni yn chwilio am gyngor ar wneud penderfyniadau ar y camau nesaf. Gwylia ein fideo i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael.
Am ragor o help a chefnogaeth, dyma gasgliad o adnoddau allai dy helpu di i wneud penderfyniadau am dy gamau nesaf:
P’un a wyt ti’n ystyried parhau ag addysg ôl-16, dod yn brentis neu wneud cais am brentisiaeth gradd, mae gan wefan Gyrfa Cymru wybodaeth ddefnyddiol gyda chanllawiau a chymorth i’th helpu i gymryd dy gamau nesaf.
Os hoffet ti archwilio dy opsiynau mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, cer i wefan Colegau Cymru lle cei restr o holl golegau Cymru gyda dolenni i’w gwefannau unigol.
Os wyt ti eisiau symud ymlaen i addysg uwch, mae gan wefan UCAS ragor o wybodaeth am ba gyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais.
Os hoffet ti gymryd dy gam nesaf i gyflogaeth, mae Cymru’n Gweithio ar gael i’th gefnogi gyda chyngor ac arweiniad am ddim a mynediad i hyfforddiant i’th helpu i gael gwaith ac i ddatblygu dy yrfa.