Os ydych chi'n ystyried pa gymwysterau rydych chi am eu dilyn mewn maes penodol, neu os ydych chi'n cefnogi rhywun sydd, mae teithiau dysgwyr yma i helpu. Mae'r dogfennau un dudalen hyn yn dangos yr holl opsiynau a llwybrau cymhwyso gwahanol sydd ar gael ym mhob sector.
Dewiswch eich pwncCliciwch ar y meysydd sydd o ddiddordeb i chi i agor taith y dysgwr |
||
|
||
Cefndir
Yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru o gymwysterau galwedigaethol, mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid a dysgwyr i gynhyrchu mapiau cymwysterau galwedigaethol, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi dysgwyr wrth iddynt ystyried eu dewisiadau a'u cyfleoedd i symud ymlaen.
Datblygwyd yr adnoddau mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, yn dilyn cyfres o ymgysylltiadau ag ysgolion, colegau addysg bellach, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a dysgwyr.
Rhagor o wybodaeth am sut y gwnaethom ddatblygu teithiau dysgwyr ar gyfer cymwysterau galwedigaethol: