Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cymwysterau Cymru sy'n eistedd ar barthau cymwysterau.cymru a cymwysteraucymru.org.
Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.
Mae hygyrchedd ein gwefan yn cael ei arwain gan Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) lle bo’n bosibl ac mae’n bodloni Lefel Cydymffurfio AA W3C.
Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
-
newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
-
chwyddo hyd at 400% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
-
llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
-
gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: comms@qualifications.wales
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â: comms@qualifications.wales
Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, ffoniwch neu e-bostiwch ni am gyfarwyddiadau.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych chi’n hapus gyda sut rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cymwysterau Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Mae ein harchwiliad hygyrchedd diweddaraf yn nodi nad oes gan bob un o'r delweddau ar y wefan ddisgrifiad testun amgen sy'n disgrifio'r gwrthrychau a'r testun wedi'i fewnosod yn y ddelwedd, gan ddefnyddio'r briodwedd "alt" (WCAG 1.1.1).
Rydyn ni hefyd yn ymwybodol efallai bod rhai o deitlau’r tudalennau ar goll o fewn gosodiadau dogfennau PDF (WCAG 2.4.2).
Rydyn ni wedi bod yn diweddaru teitlau a disgrifiadau ar ddelweddau a dogfennau PDF ym mhob rhan o’r wefan a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Mae ein harchwiliadau hefyd yn nodi nad yw'r elfennau canlynol o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai tudalennau yn cynnwys dolenni cudd sy'n caniatáu osgoi blociau (WCAG 2.4.1)
- nid yw rhai dolenni sy'n agor mewn tabiau/ffenestri newydd wedi’u tagio ar gyfer technoleg gynorthwyol (WCAG 2.4.4)
- nid yw rhai ffurflenni chwilio wedi'u tagio ar gyfer technoleg gynorthwyol (WCAG 2.4.5)
- nid yw rhai gwrthrychau a thestunau sydd wedi’u mewnosod mewn delweddau yn cael eu disgrifio ar gyfer technoleg gynorthwyol (WCAG 2.4.6)
- nid yw rhai teitlau a adeiladwyd fel tagiau testun wedi'u labelu fel penawdau ar gyfer technoleg gynorthwyol (WCAG 2.4.6)
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 17 Chwefror 2024 a disgwylir iddo gael ei adolygu erbyn 17 Mai 2024.
Profwyd y wefan ddiwethaf ar 17/01/24 yn erbyn safon AA WCAG 2.1 gan ddefnyddio accessiBe.
Cynhaliwyd y prawf gan Cymwysterau Cymru.