Action! A yw'n bryd cael TGAU ffilm newydd yng Nghymru?
Os oes un peth y mae bywyd yn ystod y cyfnod clo wedi'i ddangos, yw cymaint mae ein bywydau'n troi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd o amgylch y celfyddydau – a faint rydyn ni'n eu colli.
Gyda chyngherddau a dramâu byw wedi'u canslo a sinemâu ar gau, mae'r rhan fwyaf ohonom wedi llwyr ddibynnu ar gyfresi bocs teledu o ddramâu a chomedïau fel dihangfa i'w groesawu o'r newyddion drwg parhaus.
Mae Cymwysterau Cymru yn deall pwysigrwydd y celfyddydau mynegiannol ym mywydau pobl. Fel rhan o'n hymgynghoriad Cymwys ar gyfer y dyfodol, rydym wedi edrych yn ofalus ar yr ystod o bynciau sydd ar gael ar gyfer TGAU ac wedi cyflwyno cynigion i'w gwella yn unol â chwricwlwm newydd Cymru.
Un o'r cynigion allweddol yw creu TGAU newydd mewn ffilm a chyfryngau digidol i ddisodli'r cymwysterau TGAU Astudiaethau Cyfryngau a’r TGAU Astudiaethau Ffilm presennol.
Mae Cymru wedi gweld twf mawr mewn cynhyrchu teledu a ffilm yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yn unig gyda chynyrchiadau’r BBC fel Doctor Who a Casualty, ond hefyd gan gwmnïau annibynnol sy'n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer y BBC, S4C, ITV a rhwydweithiau rhyngwladol.
Byddai'r cymhwyster arfaethedig yn cefnogi dilyniant i ystod o bynciau a llwybrau gyrfa o fewn y celfyddydau mynegiannol a diwydiannau creadigol ehangach, sector twf yma yng Nghymru a thu hwnt gyda'r gwaith parhaus o ehangu gwasanaethau ffrydio ar-lein.
Ond nid yw'r adolygiad yn ymwneud â ffilm a digidol yn unig. Cynigir bod y cymwysterau TGAU presennol mewn celf a dylunio, drama a cherddoriaeth yn cael eu hadolygu, gan gynnig yr hyblygrwydd i ddysgwyr ac ysgolion ganolbwyntio ar un neu fwy o agweddau ar y celfyddydau mynegiannol ochr yn ochr â'u hastudiaethau eraill.
Byddai'r cymwysterau'n canolbwyntio ar ddisgyblaethau unigol, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu eu creadigrwydd tra'n ennill y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi dilyniant pellach yn eu dewis ddisgyblaeth.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn edrych ar ddawns. Er bod nifer y dysgwyr sy'n sefyll TGAU mewn dawns yn isel felly nid ydym yn credu y byddai cymhwyster dawns newydd ar gyfer Cymru yn unig yn bosibl, mae'r ymgynghoriad yn argymell y dylai dewis o gymwysterau o fannau eraill sy'n asesu dawns barhau i fod ar gael i ddysgwyr ac ysgolion.
Mae ymgynghoriad Cymwys ar gyfer y dyfodol hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer TGAU mewn ieithoedd, mathemateg, y dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg ac iechyd a lles yn ogystal â'r celfyddydau mynegiannol. Mae'r ddogfen ymgynghori a manylion am sut y gallwch ddweud eich dweud i'w gweld ar wefan Cymwysterau Cymru.