Addasiadau ar gyfer 2022 a’r manylion terfynol ar gyfer 2021
Cymysterau Cymru yn cyhoeddi addasiadau i gymwysterau ar gyfer 2022 a’r manylion terfynol ar gyfer 2021.
Haf 2022
Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru heddiw y bydd gofynion asesu yn cael eu haddasu ar gyfer dysgwyr sy'n astudio ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2022. Mae hyn er mwyn cydnabod yr amharu a fu ar addysg myfyrwyr o ganlyniad i’r pandemig. Bydd CBAC yn ymgynghori â'r athrawon a'r darlithwyr ym mis Ebrill ac yna bydd yn cyhoeddi manylion yr addasiadau.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: “Bwriad y cyhoeddiad heddiw yw rhoi sicrwydd i athrawon a darlithwyr, a dysgwyr sydd ym Mlynyddoedd 10 a 12 ar hyn o bryd.
"Er bod ansicrwydd o hyd ynghylch llwybr y pandemig, rydym yn ymwybodol iawn bod angen i ysgolion a cholegau gynllunio ar gyfer eu dysgwyr – mae'r penderfyniad i addasu cymwysterau yn golygu y gallant fod yn glir ynghylch yr hyn sydd angen i ddysgwyr ei gwmpasu wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol neu'r coleg.
“Rydym yn parhau i fod yn obeithiol y gall arholiadau fynd rhagddynt yr haf nesaf ar gyfer y cymwysterau addasedig hyn, ond byddwn yn monitro'r sefyllfa wrth iddo esblygu ac mae gennym gynlluniau amgen ar gyfer asesu yn barod i'w gweithredu os oes cyfnodau sylweddol o darfu."
Haf 2021
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi diweddariad i'w canllawiau ar drefniadau amgen ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch cymeradwy haf 2021.
Mae'r diweddariad yn rhoi trosolwg o sut y caiff graddau annodweddiadol eu nodi a'u dilyn yn haf 2021 i sicrhau y gall dysgwyr a'u rhieni fod â hyder yn nilysrwydd a hygrededd y canlyniadau.
Bydd disgwyl i bob ysgol a choleg gyflwyno sail resymegol i esbonio eu patrwm cyffredinol o ganlyniadau a bydd CBAC yn nodi'r rhai lle mae angen trafodaeth bellach.
Ni fydd CBAC yn gweithredu i newid canlyniadau, sydd eleni'n dibynnu'n llwyr ar arfer barn broffesiynol o fewn ysgolion a cholegau. Ond gallant ofyn i ganolfannau ailedrych ar y Graddau dros dro a Bennir gan y Ganolfan os na ellir cyfiawnhau patrwm y canlyniadau gan y rhesymeg a gyflwynir.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: "Fel yr amlinellir yng nghyfeiriad polisi'r Gweinidog Addysg, bydd proffiliau graddau ysgolion a cholegau yn cael eu hadolygu, a bydd unrhyw broffiliau graddau annodweddiadol yn cael eu trafod gyda'r ysgolion a'r colegau.
“Y bwriad yw bod hyn yn rhoi hyder bod cam olaf i ddiogelu hygrededd canlyniadau drwy ddeialog broffesiynol. Mae hyn yn adeiladu ar rannau eraill o'r trefniadau sicrhau ansawdd sy'n ceisio sefydlu cysondeb yn y dulliau a ddefnyddir gan ysgolion a cholegau ledled Cymru yn haf 2021.
“Mae hefyd yn adlewyrchu adborth gan arweinwyr ysgolion a cholegau a oedd yn disgwyl proses debyg y llynedd ac a oedd yn croesawu’r cyfle hwn i egluro eu barn broffesiynol.”